16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Gor 2024 / Company

Cafodd darparwr hyfforddiant o Gaerdydd, ACT Limited, lwyddiant dwbl yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru eleni wrth i aelodau o’i staff ennill gwobrau Asesydd y Flwyddyn a Thiwtor y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith.

Kirsty Keane, a ddisgrifiwyd gan y cwmni fel ‘trysor o diwtor’, a enillodd wobr y tiwtor ac fe enillodd ei chydweithiwr dyfeisgar Carly Murray wobr yr asesydd yn y seremoni a gynhaliwyd yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Roedd Kirsty’n meddwl i ddechrau mai dim ond un wobr oedd ar gyfer tiwtoriaid ac aseswyr dysgu seiliedig ar waith ac roedd yn dathlu bod ei chydweithiwr, Carly, wedi ennill. “Carly oedd fy asesydd i ac felly rwy’n gwybod pa mor wych yw hi ac rwy mor hapus drosti,” meddai.

“Cefais i sioc fawr pan enillais innau wobr hefyd, ond mae’n braf cael eich cydnabod. Mae’r wobr yn hwb i fy ngwaith ac mae’n dangos i’r dysgwyr y gallan nhw ymddiried ynof i.

“Rwy’n gweithio mewn amgylchedd heriol iawn oherwydd mae fy nysgwyr yn dod o wahanol gefndiroedd ac rwy’n awyddus i’w gweld yn symud ymlaen ac yn mynd yn bell yn eu bywydau.”

Dywedodd Carly, sy’n disgwyl merch fach ym mis Chwefror: “Rwy’n methu credu’r peth. Mae fy mhen yn y cymylau a dwi’n meddwl mod i’n dychmygu pethau am fy mod i’n disgwyl!

“Wrth glywed beth roedd y lleill yn y rownd derfynol wedi’i wneud, doeddwn i ddim yn disgwyl ennill, ond mae’n fraint fawr cael bod mor lwcus ag ennill.”

Dywedodd Sarah John, Cadeirydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW): “Mae’n bwysig cydnabod cyfraniad aseswyr a thiwtoriaid at daith ddysgu pobl ifanc. Mae’n amlwg bod y berthynas bersonol sy’n cael ei meithrin rhyngddynt yn allweddol er mwyn ysgogi ac annog pobl ifanc i lwyddo.”

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Bu Kirsty’n gweithio gyda phobl ifanc 16-18 oed fel tiwtor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Blynyddoedd Cynnar ers 2015 ac mae wedi cefnogi 91 o ddysgwyr trwy Hyfforddeiaeth Lefel 1 mewn Gofal gyda phob un ohonynt yn camu ymlaen i hyfforddiant pellach neu waith – canlyniad gwych ar lefel Hyfforddeiaeth.

Un rheswm dros y llwyddiant hwn yw bod Kirsty’n gwneud amser ar gyfer ei dysgwyr, yn gwrando ar eu gobeithion, eu breuddwydion a’u hofnau ac, ar yr un pryd, yn trefnu profiadau unigryw i’r dysgwyr gan ragori ar ddisgwyliadau pobl sydd, yn aml, ag anghenion a rhwystrau cymhleth.

Er mai dim ond 26 oed yw Kirsty, mae ganddi 10 mlynedd o brofiad fel gweithiwr cymorth gyda phobl anabl a gweithiwr cymorth dysgu un i un. Bu ei datblygiad personol yn syfrdanol gyda TAR Ôl-16, Gradd Anrhydedd BA mewn Astudiaethau Addysg ac Astudiaethau Plentyndod Cynnar a Diploma Lefel 3 CACHE mewn Gofal Plant ac Addysg.

Gan ei bod wrth ei bodd yn arloesi, bu mewn seminar ar ganu ar gyfer dementia, a daeth ag arbenigwr yn y pwnc i roi darlith i’w myfyrwyr. Arweiniodd hynny at welliant yn arferion gorau ACT.

Yn ogystal, trefnodd Kirsty brynhawn hwyl Slawer Dydd yn ACT lle be dysgwyr Gwallt a Harddwch, Arlwyo a Gofal yn cael profiadau ymarferol, gwerthfawr.

“Y peth sy’n rhoi’r boddhad mwyaf i mi yw gweld fy nysgwyr yn symud ymlaen i rywbeth difyr ac ystyrlon,” meddai Kirsty.

Ers pum mlynedd, bu Carly, 35 oed, yn asesydd Sicrhau Ansawdd Mewnol tîm addysg a datblygu ACT Limited. Mae’n cyflenwi Prentisiaethau mewn Dysgu a Datblygu a Phrentisiaethau Uwch mewn Cyngor ac Arweiniad.

Yn ogystal â’r 30 o ddysgwyr y mae’n eu hyfforddi, mae Carly’n gweithio gyda thîm o 14, sy’n cynnwys aseswyr, tiwtoriaid, mentoriaid a chynghorwyr mewn nifer o sectorau cefnogi gan gynnig cymorth ac arweiniad iddynt.

“Rwy’n credu bod fy nghefndir fel teithiwr a’r ffaith fy mod wedi colli llawer o ysgol pan oeddwn i’n blentyn yn golygu bod gen i barch mawr at amrywiaeth dysgwyr ac at y gallu i ddysgu a ffynnu mewn llu o wahanol ffyrdd,” meddai.

“Rwy wrth fy modd yn dysgu ac rwy’n meddwl y gall fy mrwdfrydedd fod yn heintus. Rwy wrthi’n barhaus yn ymchwilio i ddamcaniaethau, syniadau a ffyrdd o weithio y gallaf i a fy nhîm eu defnyddio.”

Bu Carly yn astudio ym Mhrifysgol Queen’s, Belffast cyn ennill TAR ym Mhrifysgol Caer-wysg. Dechreuodd ei gyrfa yn dysgu llythrennedd i blant o gefndiroedd difreintiedig.

Yna, bu’n cynllunio ac yn hwyluso rhaglenni astudio i helpu pobl ifanc, a oedd mewn perygl o droseddu, i fynd i fyd gwaith a hyfforddiant.  Ar ôl hynny, enillodd Carly gymwysterau ym maes llythrennedd a rhifedd i oedolion a daeth yn diwtor Sgiliau Hanfodol yn y sector Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Ar ôl cael dros 14 blynedd o brofiad yn y diwydiant addysg a hyfforddiant, mae’n rhagori ar darged asesydd ‘rhagorol’ ACT Limited yn gyson. Mae dros 90% o’i dysgwyr yn cwblhau eu cymhwyster ac mae wedi sicrhau cyfradd lwyddiant o 100% ddwywaith yn y pum mlynedd diwethaf.

Un peth arbennig a wnaeth oedd helpu i ddatblygu rhaglen ddysgu a lansiwyd ym mis Mawrth i roi cyngor ac arweiniad mewn ysgolion gyda Gyrfa Cymru ac ACT Limited.

Llongyfarchwyd Carly a Kirsty a phawb oedd yn y rownd derfynol a’r enillwyr yn arbennig gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, am osod safon aur ar gyfer Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau.

Canmolodd y Gweinidog nhw am fynd yr ail filltir i gefnogi prentisiaid ac am eu hymrwymiad i’r Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yng Nghymru.

“Mae Prentisiaethau’n faes blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a, gyda chymorth o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), mae wedi ymrwymo i greu o leiaf 100,000 o Brentisiaethau pob-oed o safon uchel yn ystod tymor presennol y Cynulliad,” meddai’r Gweinidog.

“Mae gennym weledigaeth glir ar gyfer mynd i’r afael ag anghenion busnesau Cymru, datblygu llwybrau sgiliau a chynyddu sgiliau lefel uwch er budd Cymru gyfan. Er mwyn i economi Cymru barhau i dyfu, mae’n rhaid i ni gydweithio i sicrhau bod gan Gymru weithlu sydd gyda’r gorau yn y byd.”

Rhannwch