16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Gor 2024 / Company

I’r hyfforddwraig Louisa Mallett, mae lles ei dysgwyr yr un mor bwysig ag unrhyw gymwysterau y byddan nhw’n eu hennill. Dyma’r feddylfryd sydd wedi arwain at ei henwebu ar un o restrau byrion Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) 2019.

A hithau wedi bod yn diwtor ers saith mlynedd yn ACT Training yng Nghaerdydd, mae Louisa yn grediniol y dylid datblygu’r cymeriad yn ogystal â rhoi hyfforddiant ymarferol.

Mae Louisa yn hyfforddwraig eithriadol ac arloesol, yn frwd dros addysgu, ac yn gweithio’n ddiflino i roi gweithdai creadigol a difyr. Mae’n frwd dros ofalu am les pobl, ac wedi creu llyfryn lles ar-lein sy’n rhoi gwybod i ddysgwyr am wefannau sy’n rhoi cymorth ymarferol pan fydd ganddyn nhw symptomau straen a gorbryder – pethau sy’n gallu effeithio ar eu dysgu.

Fel rhan o’i gweithdai digidol, mae Louis wedi creu cyfres o ‘Nearpods’, sef adnodd rhyngweithiol i’r ystafell ddosbarth sy’n datblygu sgiliau llythrennedd digidol yn ogystal â galluogi dysgwyr i weithio wrth eu pwysau, naill ai ar eu pennau’u hunain neu mewn grwpiau.

Mae ymdrechion Louisa wedi cael eu cydnabod wrth iddi gyrraedd y rhestr fer yng nghategori Hyfforddwr y Flwyddyn yng Ngwobrau VQ eleni. Gwobrau yw’r rhain sy’n rhoi clod i unigolion a sefydliadau am eu hymroddiad, eu gwaith caled a’u llwyddiannau.

“Dros y saith blynedd ddiwethaf, mae Louisa wedi meithrin gallu anhygoel i greu perthynas â’i dysgwyr ac i ddeall unrhyw rwystrau sylfaenol sy’n eu hwynebu,” meddai Rebecca Small, Arweinydd Gwasanaethau Busnes yn ACT Training. “Mae dysgwyr yn ymddiried go iawn yn Louisa gan ei bod hi’n gallu deall eu hanghenion ac yn gallu creu cynllun gweithredu addas a chyraeddadwy iddyn nhw ei ddilyn.”

Mae Louisa yn credu bod ei datblygiad proffesiynol hi’i hun hefyd yn hollbwysig wrth gynnal safonau. Mae hi wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad, ac ar hyn o bryd mae’n dilyn cwrs Cyflwyniad i Gwnsela a Phrentisiaeth Uwch Lefel 4 mewn Gweinyddu Busnes.

Meddai Kim Ford, a gwblhaodd gwrs Gweinyddu Busnes Lefel 3 o dan arweiniad Louisa: “Aeth Louisa y tu hwnt i’r disgwyl, gan roi sesiynau un-i-un mewn ffordd mor syml a hynod o rwydd i’w deall. Mae hi’n anhygoel.”

Meddai Louisa: “Fy nod personol yw gwneud gwahaniaeth i’n dysgwyr. Nid oes modd i bobl ddysgu go iawn heb greu cysylltiad emosiynol a heb feddwl yn arloesol.”

Bellach yn eu deuddegfed blwyddyn, mae Gwobrau VQ yn dathlu’r rheini sy’n defnyddio cymwysterau technegol, ymarferol a galwedigaethol i lwyddo. Mae Gwobr Cymwysterau Galwedigaethol – VQ – yn arwydd o ymroddiad tuag at eich proffesiwn chi.

Mae’r gwobrau’n ein helpu i ddathlu’r dysgwyr, yr hyfforddwyr a’r cyflogwyr hynny yng Nghymru sydd eisoes yn mynd gam ymhellach wrth ddatblygu sgiliau a chymwysterau galwedigaethol.

Mae gwobrau’n cael eu rhoi mewn pedwar categori – Dysgwr VQ y Flwyddyn -Canolradd, Dysgwr VQ y Flwyddyn – Uwch, Hyfforddwr VQ y Flwyddyn a Chyflogwr VQ y Flwyddyn. Mae’r rhain yn cwmpasu holl sbectrwm dysgu, hyfforddiant a chyflogaeth.

Hefyd ar y rhestr fer yn y categori Hyfforddwr y mae Anna Bell a Mark Shaw.

Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo fawreddog a gynhelir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar Fai 15. Seremoni yw hon sy’n cyd-fynd â Diwrnod VQ, diwrnod sy’n dathlu llwyddiannau galwedigaethol a manteision dysgu technegol, ymarferol a galwedigaethol, a hynny i unigolion ac i economi Cymru.

Mae’r gwobrau’n cael eu trefnu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, ColegauCymru, Cymwysterau Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg. Mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn cyfrannu at gyllid Llywodraeth Cymru.

Rhannwch