16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Gor 2024 / Company

Mae prif ddarparwr hyfforddiant Cymru, ACT Training nawr yn agor canolfan sgiliau newydd yng nghanol tref Caerffili, i roi adnodd newydd i ieuenctid lleol di-waith i’w helpu i lwyddo. Wedi’i leoli ar Stryd y Farchnad (tafarn y Bluebell gynt) bydd y ganolfan, sy’n agor ar Mai 20, yn cynnig amrywiaeth o raglenni Hyfforddeiaeth i bobl ifanc, yn benodol pobl ifanc 16-18 mlwydd oed, sydd wedi’u dylunio i roi hwb i’w gyrfaoedd.

Fe wnaeth y lansiad, a fynychwyd gan yr AC dros Gaerffili, Hefin David a Llysgennad Sgiliau ACT Jonathan Davis, groesawu staff a’r dysgwyr i’r lleoliad newydd, sy’n cynnig amrywiaeth o ystafelloedd cyfarfod, ystafelloedd dosbarth ac ystafelloedd hyfforddi mewn amgylchedd dysgu modern. 

Dywedodd sylfaenydd ACT a’r Prif Swyddog Gweithredol, Andrew Cooksley, MBE: “Mae ACT yn llwyr ymrwymedig i gefnogi pobl ifanc i gyflawni eu potensial gyrfaol a bydd ein canolfan newydd yng Nghaerffili yn gwneud hynny. Yn ogystal â darparu hyfforddiant gwych a chysylltu ein dysgwyr â chyflogwyr lleol, mae hefyd yn ymwneud â helpu ein pobl ifanc i ddod yn fwy hapus ac yn ddinasyddion mwy ymrwymedig. “

Er gwaethaf ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru sy’n nodi bod diweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn lleihau, mae 9,800 o bobl ifanc 16-18 mlwydd oed o hyd nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth (NEET).

Er mwyn atal pobl ifanc rhag dod yn bobl ifanc NEET, mae ACT yn cynnig help llaw i’r rhai sy’n gadael yr ysgol wrth symud ymlaen o addysg i’r gweithle drwy raglen Hyfforddeiaeth, sy’n paratoi pobl ifanc 16-18 mlwydd oed ar gyfer byd gwaith.

Gall dysgwyr yng Nghanolfan Sgiliau newydd ACT yng Nghaerffili ddisgwyl derbyn hyfforddiant cyflogadwyedd o’r radd flaenaf, cyfleoedd am leoliadau gwaith o ansawdd uchel a nifer o fuddion eraill, gan gynnwys teithiau undydd wedi’u hariannu’n llawn. Hefyd, bydd gan y dysgwyr fynediad at Gwnselydd, Ymgynghorwyr Cyfleoedd a Swyddogion Presenoldeb a Lles mewnol – a’r cyfan o’r rhain yno i sicrhau bod dysgwyr yn manteisio i’r eithaf ar eu hamser yn ACT ac yn helpu i sicrhau eu llwyddiant yn y dyfodol. 

Rhannwch