16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Gor 2024 / Company

Dechreuodd Caroline Cookskley, a astudiodd ym Mhrifysgol Morgannwg, ei gyrfa gydag ACT yn 1991 ac ers hynny mae wedi neilltuo ei bywyd gwaith cyfan i helpu eraill i gyflawni eu potensial gyrfaol. Yn ogystal â’i rôl arwain yn ACT, mae Caroline hefyd yn Ymddiriedolwr ar gyfer yr elusen plant Bobath, yn ogystal â llywodraethwr ysgol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr. Mae’r wobr MBE yn cydnabod cyflawniadau Caroline am gyfrannu’n rhagorol at roi addysg wrth wraidd symudedd cymdeithasol, codi safonau a gwella bywydau.

Mae’r fam i bedwar, ynghyd â’i gwr Andrew, sy’n Brif Weithredwr ACT, wedi gwneud ACT yn un o gwmnïau hyfforddi mwyaf llwyddiannus y DU. Yn dathlu ei ben-blwydd yn 30 y llynedd, mae ACT wedi bod yn gyfrifol am gefnogi dros 62,000 o bobl ifanc yng Nghymru i wireddu eu huchelgeisiau gyrfa. Ers agor ei ddrysau yng Nghaerdydd ym 1988, mae ACT wedi ehangu ei gyrhaeddiad i nifer o ganolfannau ar draws De Cymru ac mae hefyd wedi sefydlu 2 ysgol annibynnol, gan gynnig rhaglenni newid bywyd i bobl ifanc 11-16 mlwydd oed sydd wedi ymddieithrio o addysg brif ffrwd.

Yn 2018, enillodd ACT ‘Busnes Mawr Cyfrifol y Flwyddyn 2018’ gan Business in the Community Cymru ac fe’u henwebwyd hefyd fel un o brif gyflogwyr y DU yn y cwmnïau gorau i weithio iddynt yn y Sunday Times yn 2019 a 2018. Yn ogystal, mae gwobrau eraill ACT yn cynnwys ennill y 7fed Cwmni IIP (Buddsoddwyr mewn Pobl) gorau’r byd.

Wrth siarad am y wobr, dywedodd Caroline, “Rwy’n wirioneddol falch o dderbyn y wobr hon ac rwyf mor falch o’r hyn y mae ACT wedi ei gyflawni dros y 30 mlynedd diwethaf. Rwy’n gweithio gyda grŵp gwych ac angerddol o bobl sydd i gyd yn ymroddedig i helpu i wella bywydau pobl eraill, a dyna yw pwrpas ACT. Edrychaf ymlaen at sicrhau bod ACT yn parhau i gael effaith gadarnhaol ar ein dysgwyr, gan eu helpu i ddod yn ddinasyddion iachach, hapusach a mwy ymgysylltiedig.”

Rhannwch