16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Hyd 2024 / Company

Mae darparwr hyfforddiant blaenllaw Cymruwedi penodi Cynrychiolydd Dysgwr newydd i fod yn llais dysgwyr yn y sector dysgu’n seiliedig ar waith ar draws rhwydwaith ACT.

Mae ACT yn croesawu Chloe Mundell, a arferai weithio yn nhîm Gofal, Cymorth ac Arweiniad ACT fel gweithiwr Cymorth Dysgu Ychwanegol.

Fel cynrychiolydd dysgwr, bydd Chloe yn gweithio’n agos gyda dysgwyr o amriw o gyrsiau Hyfforddeiaeth a Phrentisiaeth ACT, gan gynnal grwpiau ffocws i gael adborth a gweithredu newid cadarnhaol. Bydd hefyd yn gweithio yn adran farchnata ACT i adeiladu perthnasoedd ag ysgolion, rhoi sgyrsiau a chyflwyniadau i ddisgyblion, a rhoi cyngor mewn ffeiriau gyrfaoedd.

Rhan bwysig arall o rôl Chloe fydd cysylltu’n rheolaidd ag Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCM Cymru). Mae ACT wedi bod yn gweithio gydag UCM Cymru ers 2016, y darparwr hyfforddiant cyntaf o Gymru i wneud hynny yn y ffordd hyn.

Dywedodd Chloe: “Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda’r dysgwyr, ac mae fy mhrofiad yn fy rôl flaenorol fel Gweithiwr Cymorth yn caniatau imi adeiladu perthnasoedd cryf â nhw er mwyn sicrhau eu bod yn cael y profiad gorau posibl. Rwyf newydd gwblhau fy MSc mewn Seicoleg felly rwy’n awyddus i ddefnyddio fy sgiliau a gwybodaeth i annog dysgwyr am adborth ac ymateb iddo yn effeothiol”

Bydd rôl Chloe yn pontio’r bwlch rhwng dysgwyr a rheolwyr i sicrhau bod pob dysgwr yn cael y gorau o’u profiad gyda ACT a sicrhau eu bod y dysgwr y gallant fod gorau y gall fod.

Dywedodd Andrew Cooksley, Prif Swyddog Gweithredol ACT: “Mae Chloe yn ymuno ar adeg gyffrous. Bydd yn gwneud cyfraniad mawr at ddatblygiad ein cyrsiau ac yn sicrhau ein bod yn parhau i gysylltu’n effeithiol gydan dysgwyr a Llywodraeth Cymru. “

Rhannwch