16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Gor 2024 / Company

Mae ACT, darparwr hyfforddiant mwyaf Cymru, wedi’i enwi unwaith eto fel un o gyflogwyr gorau’r DU. Yn safle 52 yn rhestr fawreddog y Sunday Times 100 Best Companies to Work for 2020, mae ACT hefyd wedi sicrhau achrediad 2 seren ‘rhagorol’ Best Companies am ei ymrwymiad i ymgysylltu â’r gweithle.

Wedi’i rannu’n bedwar categori, cwmnïau mawr, cwmnïau canol, cwmnïau bach a sefydliadau dielw, mae’r rhestr Best Companies to Work For yn dathlu ac yn arddangos y gorau o ran ymgysylltu â’r gweithle; dyma’r rhestr mwyaf hirhoedlog ac uchel ei pharch o’i fath.

Wrth sôn am y wobr, dywedodd Andrew Cooksley MBE, Prif Swyddog Gweithredol ACT Training, “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni unwaith eto wedi cyrraedd rhestr y Sunday Times Top 100 Best Companies to Work for yn 2020. Mae hapusrwydd a lles ein staff yn hynod bwysig i ni, i’r fath raddau fel ei fod yn un o’n nodau strategol allweddol fel cwmni. Rydyn ni’n cyflwyno rhaglenni hyfforddi eithriadol i filoedd o ddysgwyr y flwyddyn ac mae hyn yn bosibl oherwydd ein staff anhygoel sydd yn mynd y tu hwnt i’w dyletswyddau.  Mae cael ein cydnabod fel cwmni sy’n gofalu am ein staff gwych, cymaint ag am y bobl rydyn ni’n ymdrechu i’w helpu, yn gyflawniad enfawr ac yn glod sy’n golygu llawer iawn i ni.”

Ychwanegodd Jonathan Austin, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd y Best Companies, “Hoffwn longyfarch ACT ar eich cyflawniad. Mae Best Companies wedi bod yn cynhyrchu’r safon achredu er 2006 i gydnabod rhagoriaeth yn y gweithle. Mae sefydliadau fel ACT wedi parhau i ganolbwyntio ar eu gweithwyr ac wedi cael eu gwobrwyo gyda gweithlu ymgysylltiedig sy’n dweud wrthym mai hwn yw’r cwmni gorau i weithio iddo.”

Cyflawnwyd y safle Best Companies yn dilyn adborth uniongyrchol gan weithwyr ACT oedd yn canolbwyntio ar eu rheolwr a’u tîm, twf personol, lles, rhoi rhywbeth yn ôl, arweinyddiaeth, y cwmni cyfan a bargen deg i weithwyr.

Mae ACT wedi ymrwymo i wella a chefnogi lles ei holl weithwyr trwy nifer o fentrau. Mae ganddyn nhw wasanaeth cwnsela mewnol sy’n cefnogi gweithwyr gyda materion a allai fod yn effeithio ar eu gwaith a’u lles. Maen nhw hefyd yn hyrwyddo diwylliant o hyfforddi ar draws ACT, lle mae rheolwyr ledled y sefydliad yn cael eu hyfforddi mewn technegau hyfforddi gan eu galluogi i gefnogi eu gweithwyr yn well a gwella eu lles. Yn ogystal â hynny, maen nhw hefyd wedi cyflwyno hwb lles; gofod amlbwrpas sy’n gartref i dîm lles ACT a lleoedd podiau i weithwyr weithio’n dawel ar eu pennau eu hunain neu un i un gyda’u dysgwyr.

Dyma’r chweched tro i ACT ennill statws Best Companies ar ôl cyrraedd y rhestr Best Companies to Work for yn 2019, 2018, 2015, 2014 a 2012.

 

 

 

Rhannwch