16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Gor 2024 / Company

Mae Bethan Maund, Pennaeth Prentisiaethau yn ACT, yn dweud na fu erioed amser gwell i’r gweithlu uwchsgilio nag yn awr. Gyda Coronafeirws yn gorfodi busnesau, ysgolion a’r system addysg gyfan i gau dros dro, rydym yn cael ein gorfodi i addasu a dod o hyd i atebion newydd i’r argyfwng.

Gyda Cymwysterau Cymru a’r cyrff dyfarnu yn gweithio’n agos gyda darparwyr hyfforddiant i gyhoeddi canllawiau newydd ar addasiadau i ddulliau asesu, mae’n debyg y bydd dysgu digidol yn dod yn nodwedd ganolog mewn dysgu a datblygu wrth symud ymlaen. Gyda’r byd o’n cwmpas yn newid yn gyflym, mae’n amser gwych i gyflogwyr ystyried sut y gallant addasu a datblygu, nid yn unig fel busnes, ond hefyd y ffordd orau iddynt lenwi bylchau mewn sgiliau gan ddefnyddio eu gweithwyr.

Dyma bedair yn unig o nifer o ffyrdd mae dysgu digidol yn ffordd effeithiol o uwchsgilio ar gyfer y dyfodol.

Ymgysylltu uwch

Mae astudiaethau gan IBM wedi dangos bod cyfranogwyr yn dysgu pum gwaith yn fwy o ddeunydd mewn cyrsiau dysgu ar-lein gan ddefnyddio cynnwys amlgyfrwng nag mewn cyrsiau wyneb yn wyneb traddodiadol. Gyda llawer ohonom yn cydbwyso bywydau prysur, mae rhoi’r annibyniaeth a’r rheolaeth i ddysgwyr i ffitio eu hastudio o amgylch eu hamserlenni eu hunain, yn eu galluogi i weithio ar eu cyflymder eu hunain. Yn gyffredinol, mae dysgwyr yn gweithio’n gyflymach ar-lein nag y byddent fel arall, ac yn aml yn llyncu mwy o wybodaeth. Mae pryderon na fydd gweithwyr yn ymrwymo ac yn gwneud y gwaith yn gwbl ddi-sail. Mae 98% o’r dysgwyr ar ein rhaglenni Prentisiaeth yn ymgysylltu ar-lein. Fel arfer, mae pobl yn brysur yn y gwaith ac mae’n anodd iddyn nhw ddod o hyd i’r amser i gwblhau darn o waith neu wneud asesiad. Mae’r cyfyngiadau symud a gweithio o bell o gartref, wedi galluogi ein dysgwyr i gwblhau gwaith cwrs yn eu hamser eu hunain a bwrw ymlaen gyda’u cymwysterau.

Hygyrchedd

Mae dysgwyr yn aml yn ei chael hi’n anodd cydbwyso eu llwyth gwaith â bywyd cartref, ac amserlennu mewn pryd i fynychu cyrsiau sy’n gysylltiedig â gwaith. Gall yr amser sy’n cael ei dreulio yn teithio i ddosbarthiadau ac oddi yno fod yn rhwystr i ddysgu i gyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd. Fe wnaeth adroddiad Brandon Hall ar eDdysgu ganfod o fewn corfforaethau fod dysgu o bell fel arfer yn gofyn am 40-60% yn llai o amser gweithwyr na dysgu mewn lleoliad ystafell ddosbarth traddodiadol. Mae hefyd yn golygu y gall dysgwyr dorri eu gwaith yn ddarnau a gweithio ar rannau o’u cwrs ar adegau sy’n gweithio orau iddyn nhw.

Cymorth digidol rhyngweithiol

Mae pryderon yn aml y gall dysgu o bell fod yn brofiad ynysig. Gyda Microsoft Teams, Google Classrooms, Nearpod ac amrywiaeth eang o lwyfannau digidol ac offer cymorth dysgu nawr ar gael, nid yw erioed wedi bod yn fwy difyr i ddysgu ar-lein. Gan ddefnyddio Classroom Nearpods (profiad dysgu rhyngweithiol sy’n ennyn diddordeb pawb ar eu dyfeisiau ar yr un pryd) mae’r dysgwyr yn cael cwisiau a chydweithrediadau amser real lle gallan nhw bostio atebion a chwestiynau’n ddienw a chael adborth ar unwaith. Gall aseswyr weld pwy sy’n anfon yr atebion a thynnu sylw at y meysydd mae myfyrwyr yn cael trafferth â nhw a darparu mwy o wybodaeth. Mae’n dileu’r ofn o siarad yn gyhoeddus ac mae’n ffordd wych o fagu hyder i ddysgwyr. Mae defnyddio technoleg wrth addysgu nid yn unig yn gwella sgiliau a gwybodaeth ddigidol y dysgwyr eu hunain, ond mae wir yn gwella

profiad y dysgwyr. Mae’n rhoi mwy o gyfrifoldeb i ddysgwyr am eu profiad dysgu ac yn osgoi llawer o ddryswch. Mae hefyd yn helpu i gadw profiad yr ystafell ddosbarth yn ffres ac yn gyffrous i aseswyr hefyd.

Asesu rheolaidd

Yn ogystal â dysgu ar eu cyflymder eu hunain, mae dysgu ar-lein hefyd yn golygu bod asesiadau’n dod yn rhan fwy cyson a pharhaus o’r broses. Mae hyn yn newyddion da i fyfyrwyr gan fod asesu rheolaidd a gwirio gydag aseswyr yn gallu gwella ymgysylltiad myfyrwyr ac yn galluogi cyflogwyr i weld pa mor dda mae eu gweithwyr yn dod yn eu blaenau. Mae hefyd yn galluogi aseswyr i sylwi pan fydd dysgwr yn cael trafferth a chamu i mewn i roi cymorth a chefnogaeth.

Rydym yn buddsoddi’n helaeth mewn cynnig datrysiadau digidol a dewisiadau amgen i gyflogwyr a dysgwyr sy’n ceisio gwella sgiliau eu gweithlu. Gyda’r byd o’n cwmpas yn newid yn gyson, nid oes rhaid dweud bod rhaid i addysg symud gyda’r oes hefyd. Wrth ymrestru gyda ni, mae 100% o’r dysgwyr prentisiaeth yn derbyn portffolio digidol OneFile wrth gofrestru. Mae’r portffolio hwn yn cynnwys holl raglenni ymsefydlu a chynnwys y fframwaith. Mae’r system ar gael fel llwyfan ar-lein ac fel ap ffôn symudol, ac mae hwylustod a hygyrchedd yn galluogi pob dysgwr sydd heb fawr o brofiad o dechnoleg i gael mynediad i’w portffolio naill ai o’u ffôn neu ar eu bwrdd gwaith. Mae aseswyr yn darparu cymorth tiwtorial un i un dros y ffôn a thrwy fideo-gynadledda. Yr hyn sy’n wych am ddysgu ar-lein yw y gall dysgwyr gyflawni asesiadau a meini prawf gwybodaeth drwy’r system OneFile ar gyflymder sy’n gweithio iddyn nhw. Mae’r system a’r gweithdrefnau hefyd yn caniatáu i gyflogwyr a rheolwyr gymryd rhan weithredol yn y rhaglen a monitro sut mae gweithwyr yn dod yn eu blaenau.

I gael gwybod mwy am y cymwysterau rydym yn eu cynnig, ewch i: https://acttraining.org.uk/apprenticeship-employers 

 

Rhannwch