16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Hyd 2024 / Company

Unwaith eto, mae ACT wedi sicrhau canlyniadau ac adborth gwych o’i Arolwg Llais y Dysgwr blynyddol, gyda 96% o ddysgwyr yn gadarnhaol am ACT.

Fel prif ddarparwr hyfforddiant Cymru, mae ACT wedi ymrwymo i sicrhau bod ein dysgwyr yn derbyn gwasanaethau uchel cyson drwy gydol eu taith fel dysgwyr.

I sicrhau bod safonau yn cael eu cynnal a bod boddhad dysgwyr yn hollbwysig, bob blwyddyn rydym yn cynnal arolwg o’n dysgwyr o’r rhwydwaith ar draws amrywiaeth o feysydd. Gofynnir cwestiynau i ddysgwyr am y cymorth maen nhw’n ei gael, y wybodaeth a roddir iddyn nhw, y cyfleusterau a’r offer sydd ar gael iddyn nhw yn ogystal â’u sgôr cyffredinol ar gyfer eu darparwr. 

Mae ACT yn ymfalchïo yn ei staff arobryn, systemau cymorth cryf a chyfleusterau hyfforddi o’r radd flaenaf, ac mae hyn yn parhau i gael ei adlewyrchu flwyddyn ar ôl blwyddyn yng nghanlyniadau ein harolwg.

Eleni cawsom y nifer uchaf erioed o ymatebion gyda 3171 o ddysgwyr yn cwblhau ein 2020 Arolwg Llais y Dysgwr (ar draws Rhwydwaith ACT).  Cynnydd enfawr o 797 o ddysgwyr o’n harolwg 2019 blaenorol.

Gyda 21 o sefydliadau partner, 12 o lwybrau Hyfforddeiaeth gwahanol ar gyfer plant 16-18 mlwydd oed, a Phrentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch mewn dros 30 o sectorau gwahanol, mae gennym ystod amrywiol o ddysgwyr yr ydym yn gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn darparu hyfforddiant perthnasol o safon uchel iddynt. Mae hyn yn amlwg o’r adborth anhygoel a gafodd rhwydwaith ACT ar draws amrywiaeth o feysydd. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys:

  • Roedd 96% o’n dysgwyr yn gadarnhaol amdanom ni
  • Dywedodd 96% o’n dysgwyr eu bod yn teimlo’n ddiogel yn dysgu gydag ACT
  • Dywedodd 95% o’n dysgwyr fod eu cymhwyster gydag ACT yn eu helpu i gyflawni eu nodau
  • Dywedodd 94% o’n dysgwyr fod eu cymhwyster yn berthnasol i’w swydd.

Cafodd yr arolwg adborth gwych gan ein dysgwyr hefyd:

“Mwynheais y rhaglen yn fawr iawn ac rwyf wedi cael cefnogaeth ragorol gan ddau diwtor eithriadol, yr wyf wedi dysgu cymaint ganddyn nhw. Mae’r ddau yn hynod ragweithiol wrth ymateb i unrhyw ymholiadau neu ddarparu cymorth ychwanegol, ac am hynny rwy’n wirioneddol ddiolchgar.”

Dysgwr Gweinyddu Busnes Lefel 4

“Rwyf wedi mwynhau fy mhrofiad gydag ACT yn fawr iawn. Roedd fy nhiwtor bob amser yn gwneud yn siŵr fy mod yn gwthio fy hun ac yn helpu i gysylltu’r cymhwyster yn ôl i fy  swydd a wnaeth wir helpu i roi cyd-destun i’r cymhwyster yn fy mywyd bob dydd. Roeddwn i bob amser yn cael fy ngwneud yn ymwybodol o’r cymorth oedd ar gael i mi, ac roedd yn cymryd yr amser i edrych ar fy lles, yn ogystal â’m cynnydd academaidd, ac roeddwn i wir yn gwerthfawrogi hyn! “- Dysgwr Marchnata Digidol, Cyfryngau Cymdeithasol a TG

“Fe wnaeth cydweithio gyda fy nhiwtor ACT fy helpu i ddarganfod fy mhotensial. Fe wnaethon nhw fy nhaith ddysgu yn gyraeddadwy, yn bleserus ac yn bosibl. Yn ystod y cwrs rwyf wedi sylwi ar newid mawr yn fy lles ac mae fy nhiwtor wedi dangos i mi y gallaf gyflawni llawer mwy nag y credaf.”

Dysgwr Dylunio Dysgu Digidol

“Rydw i wedi gwneud cynnydd eithriadol o dda ar fy nghwrs mewn cyfnod byr ac rwy’n diolch i’m tiwtoriaid am hyn. Oherwydd eu hagweddau cadarnhaol rwyf wedi ffynnu.”

Dysgwr Hyfforddeiaeth

 “Mae ACT wedi bod yn wych. Maen nhw’n gefnogol iawn ac mae’r amgylchedd dysgu yn wych.”

Dysgwr prentisiaeth

Rydym bob amser yn ceisio sicrhau bod ein dysgwyr yn graddio’r gwasanaeth maen nhw’n eu dderbyn fel un rhagorol. Er bod y canlyniadau yr ydym wedi’u sicrhau’n gyffredinol yn wych, rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar y rhain ac edrych ar unrhyw feysydd y mae dysgwyr yn teimlo y gellid eu gwella neu eu datblygu ymhellach.  

Dywedodd Richard Spear, Rheolwr Gyfarwyddwr ACT Training: “Yn ACT, mae popeth a wnawn er lles ein dysgwyr. Maen nhw wrth wraidd popeth a wnawn ac mae hyn i’w weld yn glir yng nghanlyniadau ein harolwg. Mae ein timau anhygoel yn ACT wir yn poeni am wella bywydau pobl eraill, ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o wella ac adeiladu ar ein gwasanaethau. Mae gennym dîm gwirioneddol ymroddedig o bobl yn gweithio yn ACT sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir i helpu ein dysgwyr i gyflawni a gwireddu eu potensial gyrfaol!”

Ychwanegodd Chloe Mundell, Cynrychiolydd Dysgwyr ACT, “Rydym wedi llwyddo i gyflawni ein cyfradd ymateb uchaf eto, ynghyd â chanlyniadau rhagorol ac adborth fel 96% o’n dysgwyr yn dweud eu bod yn teimlo’n ddiogel yn ACT. Diolch i’r holl ddysgwyr a gwblhaodd yr arolwg ac i bawb a gymerodd ran am eu hymdrechion. Rydym yn ei werthfawrogi’n fawr. “

Diddordeb mewn dod yn ddysgwr ACT? Dysgwch fwy am y Prentisiaethau a’r Hyfforddeiaethau rydyn ni’n eu cynnig. O Wasanaeth Cwsmeriaid i Ofal, dewch o hyd i’r cymhwyster cywir i ddatblygu eich sgiliau a datblygu eich gyrfa:www.acttraining.org.uk/learners    

 

Rhannwch