16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Gor 2024 / Company

Er gwaethaf heriau’r pandemig a’r cynnwrf y mae wedi achosi i’r system addysg, mae darpariaeth Ysgolion ACT yn dathlu blwyddyn wych arall o ganlyniadau TGAU. 2020 yw’r flwyddyn mwyaf llwyddiannus yn yr Ysgol hyd yma gydag 85% o ddysgwyr yn cyrraedd trothwy Lefel 1 (5 TGAU neu gyfwerth o D-G) sydd i fyny o 51% ers y llynedd.

Fe wnaeth y dysgwr, Izaak Salmon ennill Gradd A mewn Saesneg yn ogystal ag ennill trothwy Lefel 2 o sicrhau 5 gradd TGAU rhwng Lefel A-C. Mae Izaak eisoes wedi sicrhau cyflogaeth ar ôl gorffen gydag Ysgolion ACT a bydd yn dechrau prentisiaeth Gwresogi. Wrth siarad am ei lwyddiant, dywedodd Izzak, “Rwyf wedi gwneud yn llawer gwell yn ACT nag y byddwn wedi’i wneud mewn addysg brif ffrwd”

Sefydlwyd Ysgolion ACT yn 2012, mewn ymateb i nifer y bobl ifanc sy’n ymgysylltu ag ACT yn 16 mlwydd oed sydd â sgiliau llythrennedd a rhifedd diffygiol. Fe wnaeth ACT ddatblygu Rhaglen Ysgolion penodol, wedi’i thargedu fel ymgais i unioni’r mater sylfaenol hwn, sydd ar hyn o bryd yn rhwystr i lawer gormod o bobl ifanc ledled Cymru. Mae ACT yn credu’n gryf bod angen ymyrryd yn gynnar er mwyn sicrhau bod yr holl bobl ifanc; yn enwedig y rhai hynny sydd wedi’i ymddieithrio oddi wrth addysg, yn gallu cam i fyd gwaith gyda’r siawns orau posibl o lwyddo.

Gyda chanolfannau yng Nghaerdydd a Chaerffili, mae Ysgolion ACT yn cynnig addysg amgen i bobl ifanc sydd wedi’u gwahardd neu mewn perygl o gael eu gwahardd, sydd â ffobia am fynd i’r ysgol neu sy’n cael eu hystyried yn agored i niwed. Mae’r rhaglen wedi’i dylunio i ymgysylltu â phobl ifanc a’u helpu i oresgyn eu rhwystrau i gyfranogi, eu paratoi ar gyfer bod yn oedolion a byd gwaith.

Wrth siarad am lwyddiant y dysgwyr eleni, dywedodd Kelly Rowlands, Pennaeth Addysg 11-16, “Rwy’n hynod falch o gyflawniadau’r dysgwyr a’r staff. Ni ddylai cyflawniadau ein dysgwyr fod yng nghysgod y sefyllfa bresennol. Maen nhw wedi gwneud yn rhyfeddol o dda a dylid eu canmol am eu llwyddiannau. Maen nhw wedi sicrhau sylfeini cryf fydd yn eu gweld nhw’n symud ymlaen i benodau nesaf eu bywydau ac mae’n wych gweld cynifer yn parhau yn ACT.”

Rhannwch