16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Hyd 2024 / Company

Mae 96 y cant anhygoel o ddysgwyr yn sgorio ACT yn gadarnhaol a byddent yn argymell eu cwrs i eraill, yn ôl ei Arolwg Llais y Dysgwr blynyddol diweddaraf.

Fe wnaeth yr arolwg pellgyrhaeddol ganfod hefyd fod 100 y cant o ddysgwyr yn teimlo’n ddiogel yn dysgu gydag ACT ac yn cael eu trin yn deg a gyda pharch. Mae hyn wedi cynyddu bedwar y cant ers y llynedd.

Fel prif ddarparwr hyfforddiant Cymru, mae ACT wedi ymrwymo i sicrhau bod dysgwyr yn derbyn gwasanaethau uchel cyson drwy gydol eu taith fel dysgwyr.

Fe wnaeth yr arolwg ganfod bod 98 y cant o ddysgwyr ACT yn dweud bod eu cwrs yn berthnasol i’w rôl swydd, neu’r rôl swydd maen nhw am ei chael yn y dyfodol (cynnydd o bedwar y cant ers y llynedd). Yn ogystal, mae 99 y cant o’n dysgwyr yn teimlo bod ACT yn eu cefnogi’n dda gyda’u nodau dysgu, ac yn sicrhau eu bod yn eu cyflawni.

Bob blwyddyn mae ACT yn cynnal arolwg manwl o’i ddysgwyr ar draws amrywiaeth o feysydd. Gofynnir cwestiynau iddyn nhw am y cymorth maen nhw’n ei gael, y wybodaeth a roddir iddyn nhw, y cyfleusterau a’r offer sydd ar gael iddyn nhw yn ogystal â’u sgôr cyffredinol ar gyfer eu darparwr.

Cafwyd y nifer uchaf erioed o ymatebion yn yr arolwg mwyaf diweddar, gyda 3,182 o ddysgwyr yn rhoi adborth – cynnydd am ei drydedd flwyddyn yn olynol.

Gyda 21 o sefydliadau partner, 12 o lwybrau Hyfforddeiaeth gwahanol ar gyfer plant 16-18 mlwydd oed, a Phrentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch mewn dros 30 o sectorau gwahanol, mae gan ACT ystod amrywiol o ddysgwyr.

Mae ACT yn gweithio’n galed i sicrhau ei fod yn darparu hyfforddiant o ansawdd uchel a pherthnasol ac mae’r adborth anhygoel a gafwyd ar ei gyrsiau a’i staff yn dangos hyn yn glir.

Dywedodd Chloe Mundell, Cynrychiolydd Dysgwyr ACT: Rydym wedi llwyddo i gyflawni ein cyfradd ymateb uchaf eto, ynghyd â chanlyniadau rhagorol ac adborth fel 100 y cant o’n dysgwyr yn dweud eu bod yn teimlo’n ddiogel yn ACT. Diolch i’r holl ddysgwyr a gwblhaodd yr arolwg ac i bawb a gymerodd ran am eu hymdrechion. Rydym yn ei werthfawrogi’n fawr. “

Ychwanegodd Richard Spear, Rheolwr Gyfarwyddwr ACT Training: “Yn ACT, mae popeth a wnawn er lles ein dysgwyr. Maen nhw wrth wraidd popeth a wnawn ac mae hyn i’w weld yn glir yng nghanlyniadau ein harolwg.

Mae ein timau anhygoel yn ACT wir yn poeni am wella bywydau pobl eraill, ac rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o wella ac adeiladu ar ein gwasanaethau. Mae gennym dîm gwirioneddol ymroddedig o bobl yn gweithio yn ACT sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir i helpu ein dysgwyr i gyflawni a gwireddu eu potensial gyrfaol!”

Mae ACT yn ymfalchïo yn ei staff arobryn, systemau cymorth cryf a chyfleusterau hyfforddi o’r radd flaenaf, ac mae hyn yn parhau i gael ei adlewyrchu flwyddyn ar ôl blwyddyn yng nghanlyniadau ei arolwg.
Er bod yr adborth eleni’n wych, mae ACT wedi ymrwymo i adeiladu ar hyn ac yn edrych ar unrhyw feysydd mae dysgwyr yn teimlo y gellid eu gwella neu eu datblygu ymhellach.

Mae rhai meysydd a amlygwyd ar gyfer gwella yn yr arolwg yn cynnwys:

  • Mae llawer yn dweud eu bod yn clywed – ac yn defnyddio – Cymraeg yn eu cwrs/gweithle. Mae hyn yn dweud wrthym yr hoffem barhau i ddatblygu’r Gymraeg o fewn y ddarpariaeth.
  • O’r rhai a ddywedodd wrthym fod ganddynt angen dysgu, neu anabledd, mae rhai’n dweud y byddent yn croesawu mwy o gefnogaeth mewn perthynas â hyn.
  • Mae rhai dysgwyr yn dweud y gallem wneud gwybodaeth ar-lein benodol yn gliriach.
  • Mae llawer o ddysgwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu llythrennedd, rhifedd a/neu lythrennedd digidol, naill ai drwy eu cymhwyster Sgiliau Hanfodol neu drwy gefnogaeth eu hasesydd/tiwtor. Er bod hyn yn wych, mae lle i ni wella ar y maes hwn.

Mae ACT bellach yn estyn allan at ddysgwyr ar draws ei rwydwaith – gyda galwadau ffôn a grwpiau ffocws – i gael adborth pellach ar bynciau penodol, fel y gellir gwneud gwelliannau.

Diddordeb mewn dod yn ddysgwr ACT? Dysgwch fwy am y Prentisiaethau a’r Hyfforddeiaethau rydyn ni’n eu cynnig. O Wasanaeth Cwsmeriaid i Ofal, dewch o hyd i’r cymhwyster cywir i ddatblygu eich sgiliau a datblygu eich gyrfa:www.acttraining.org.uk/learners

Rhannwch