16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Mai 2024 / Blog

Mae Rheolwr Gyfarwyddwr ACT, Richard Spear, yn esbonio sut y gall busnesau drechu anawsterau cyflogi’r DU trwy fuddsoddi yn eu staff presennol

Mae uwchsgilio yn bwnc llosg i unrhyw arweinydd busnes ar hyn o bryd. Bydd unrhyw un sydd mewn sefyllfa gyflogi yn adnabod y frwydr bresennol o ddod o hyd i’r dalent gywir mewn marchnad sy’n gynyddol gystadleuol.

Ac os ydych chi’n teimlo bod y pwll talent yn crebachu, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae adroddiad ysgytiol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan CIPD yn dangos bod prinder sgiliau wedi mwy na dyblu yng Nghymru o 9,000 yn 2017 i 20,600 yn 2022. Ar yr un pryd, barnwyd bod mwy na thraean o swyddi gwag yn ‘anodd eu llenwi’ oherwydd ansawdd yr ymgeiswyr a diffyg sgiliau angenrheidiol.

Nid yw’n syndod felly bod busnesau’n edrych, yn hytrach, ar eu gweithlu presennol gan uwchsgilio eu timoedd er mwyn pontio’r bwlch sgiliau cynyddol hwn.

Mae datblygu ac uwchsgilio yn cael eu crybwyll yn gyson fel ‘buddion’ mwyaf poblogaidd gweithle i ddarpar weithwyr, gyda data Global Talent Trends LinkedIn yn dangos bod gan gwmnïau sy’n helpu eu gweithwyr i feithrin sgiliau gyfradd symudedd mewnol uwch na’r rhai sydd ddim yn blaenoriaethu datblygiad. Gyda hynny mewn golwg, nid yw’n syndod bod dwy ran o dair o gyflogwyr yn buddsoddi mewn hyfforddiant er mwyn uwchsgilio eu gweithlu presennol.

Mae uwchsgilio yn fuddiol i fusnesau ac unigolion, yn ogystal â’r gweithlu ehangach. Mae’n rhoi’r cyfle i ddysgu sgiliau newydd, hynod ddymunol a throsglwyddadwy sydd wedyn yn golygu bod cwmnïau’n caffael ac yn cadw staff sydd â’r wybodaeth ddiweddaraf am eu rôl.

Mae uwchsgilio hefyd yn cynnig cyfle i addasu rôl yn gyfan gwbl i’ch anghenion busnes, gan ddangos eich bod yn credu bod gweithwyr yn werth buddsoddi ynddynt a’ch bod yn eu cefnogi yn eu dyheadau am y dyfodol a’u dilyniant gyrfa. Gall uwchsgilio deimlo fel buddsoddiad mawr, ond ni ddylai fod. Yn ACT, fel prif ddarparwr hyfforddiant Cymru, rydym wedi gweithio gyda mwy na 14,000 o fusnesau ledled y wlad i’w cefnogi hwy a’u staff gyda’u hanghenion dysgu seiliedig ar waith, gan gynnwys prentisiaethau.

Mae’r cyrsiau’n amrywio o farchnata digidol a gwasanaeth cwsmeriaid i gyfrifyddiaeth a rheoli cyfleusterau, a llawer mwy. Maent yn addas ar gyfer gweithwyr sy’n dechrau eu taith mewn rôl benodol yn ogystal â staff uwch sy’n ceisio mireinio’u sgiliau.

Caiff y cymwysterau eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru ac maent yn cynnig dysgu hyblyg yn y gweithle, mewn gweithdai ac ar-lein.

Camsyniad cyffredin yw bod prentisiaethau ond ar gael ar gyfer swyddi penodol – gwaith â llaw yn aml, neu ar gyfer pobl sydd newydd ddechrau eu gyrfa, ac ni allai hyn fod ymhellach o’r gwir. Mae prentisiaethau ar gael ar gyfer unrhyw oedran, mewn unrhyw sector ac i weithwyr ar bob lefel o brofiad.

Gellir cyflwyno prentisiaethau yn hyblyg i anghenion y sector, busnes a dysgwr – boed er mwyn uwchsgilio rhywun sydd eisoes mewn rôl neu gynnig prentisiaeth fel pwynt mynediad i’ch sefydliad.

Gellir cwblhau gwaith cwrs o amgylch prosiect y mae’r dysgwr yn bwriadu ei weithredu yn ei gwmni, gan adnabod beth sydd angen ei wneud a’r cynllun gweithredu sydd angen ei roi ar waith.

Mae uwchsgilio yn prysur ennill ei blwyf nid yn unig fel mantais swydd sy’n ‘braf i’w gynnig’ ond yn ffactor hanfodol nid yn unig i bobl sy’n chwilio am waith ond hefyd i fusnesau sy’n buddsoddi yn eu twf eu hunain yn ogystal â’u gweithwyr’.

Gallwch ddarganfod mwy ynglŷn â sut y gall dysgu seiliedig ar waith weithio i chi trwy gysylltu â ni yma.

Rhannwch