16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Os ydych yn chwilio i rymuso eich gweithlu neu ddod â safbwynt newydd i’ch tîm, gall prentisiaethau ddarparu sgiliau newydd i gyflogwyr a thrwy hynny, rhoi hwb i’ch gweithrediadau.

Mae prentisiaethau yn opsiwn gwych os ydych chi am uwch-sgilio eich gweithwyr presennol, meithrin talent newydd yn eich diwydiant neu sicrhau bod gweithwyr penodol yn llwyddo yn eu harbenigedd.

Ychydig amdanom ni…

Sefydlwyd ACT yng Nghaerdydd ym 1988 ac mae erbyn hyn y darparwr hyfforddiant arweiniol yng Nghymru, gan gefnogi busnesau sy’n awyddus i uwch-sgilio eu gweithlu.

Hyd yma, rydym wedi gweithio gyda dros 14,000 o gyflogwyr i helpu 75,000 o ddysgwyr i gyflawni eu nodau gyrfa.

Rydym yn cynnig cyfleoedd dysgu seiliedig ar waith sydd wedi’i ariannu’n llawn, ym mhopeth o gyfryngau cymdeithasol a rheoli prosiectau i weinyddiaeth busnes a data analytig. Mae cyfleoedd hefyd i ddod â thalent newydd i’ch sefydliad drwy gyflogi prentis neu ein dysgwyr Twf Swyddi Cymru +.

Mae cannoedd o gymwysterau i ddewis ohonynt ar draws nifer o sectorau, felly os ydych angen hyfforddiant, mae gennym ateb. Dyma rai o’r cymwysterau rydym yn eu cynnig:

  • Harddwch, Trin Gwallt a Barbwr
  • Gwasanaethau Busnes
  • Gofal Plant a Chwarae
  • Cymwysterau CIPD AD
  • Data Analytig
  • Addysg a Dysgu
  • Rheoli Ynni a Charbon
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • TG, Digidol a Marchnata

Ychydig amdanoch chi…

Os ydych chi’n fusnes bach neu ganolig, yn gwmni mawr neu’n hunangyflogedig, os ydych chi’n gweithredu yng Nghymru, rydyn ni eisiau clywed gennych chi am eich anghenion hyfforddi ac uwch-sgilio.

Gall prentisiaethau seiliedig ar waith gynnig cyfleoedd gwahanol i wahanol gwmnïau, os yw hynny’n darparu lefel sylfaenol o hyfforddiant i’r holl staff mewn cyrsiau fel Sgiliau Digidol neu sicrhau bod y rhai sydd mewn rolau penodol yn eich busnes yn gyfoes ac yn wybodus o ran eu harbenigedd.

Mae cyfle hefyd i ddod â thalent newydd i’ch busnes trwy brentisiaethau, neu hyd yn oed ein dysgwyr Twf Swyddi Cymru +. Mae hyn yn helpu cenhedlaeth newydd o weithwyr i ddysgu sgiliau eich diwydiant, gan ennill yr wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer menter fuddiol i’r ddwy ochr – rydych chi’n cael gweithiwr angerddol a brwdfrydig, mae’r dysgwr yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen i lwyddo yn ei rôl ddelfrydol.

Nid yw prentisiaethau wedi’u cyfyngu i sectorau penodol neu lefelau penodol o brofiad; mae’r cyrsiau wedi’u cynllunio i gael y gorau gan ddysgwyr beth bynnag fo’u diwydiant neu eu galluoedd.

Get in touch!

Eisiau sgwrs anffurfiol?

Gallwch ein canfod ar LinkedIn i yrru neges neu i’n dilyn er mwyn gweld ein newyddion a’n cynigion diweddaraf. Rydyn ni hefyd yn cynnal gweminarau rheolaidd am ddim sy’n ffocysu ar fusnes, yn ogystal â digwyddiadau mewn person ble mae croeso i chi fynychu.

Our work-based programmes:

Young people can be a great asset and by getting involved in Jobs Growth Wales+ you’ll ensure your business has its pick of the young talent in your community.

It is an innovative and flexible programme. So you can determine the best way in which the programme can help your business, and at the same time create life changing opportunities for the young person you support.

Find out more!

Our Apprenticeships are work-based training programmes designed around the needs of your business, which lead to nationally recognised qualifications for your employees.

You can use our Apprenticeship programme to upskill an existing member of staff or to recruit fresh talent.

 

Employing an Apprentice is the same as employing a new member of staff – the only difference being is that that new member of staff will be undergoing an Apprenticeship and training on the job.

How you advertise, interview and offer the Apprentice the job is completely up to you, but we offer a fully-funded Apprentice recruitment service that any of our Welsh clients and businesses can take advantage of.