Mae ACT, darparwr hyfforddiant mwyaf blaenllaw Cymru wedi cydweithio â CBAC, corff dyfarnu mwyaf Cymru i greu cymhwyster Hunanddatblygiad a Lles wedi’i dargedu at bobl ifanc. Y cymhwyster ‘sector arweiniol’ hwn, yw’r cyntaf o’i fath i ACT a CBAC ac mae’n mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r materion a’r rhwystrau i ddysgu y mae llawer o bobl ifanc yn eu hwynebu heddiw.
Mae unedau’r cymhwyster wedi eu seilio ar olwyn les ACT sy’n cwmpasu ystod o bynciau, o wytnwch emosiynol i hunaniaeth bersonol, hylendid a mwy. Mae’r unedau cymhwyster yn cefnogi twf personol dysgwyr yn ogystal â’u hymgysylltiad â dysgu ac mae hefyd yn seiliedig ar unedau a chredydau sy’n caniatáu hyblygrwydd a’r gallu i addasu i anghenion unigol neu grŵp o ddysgwyr.
Cafodd y cymhwyster ei greu dros gyfnod o ddwy flynedd, ac mae’r cymhwyster yn cael ei lywio’n uniongyrchol gan y materion y mae llawer o bobl ifanc yn eu cyflwyno wrth ymuno â rhaglen Twf Swyddi Cymru+ Llywodraeth Cymru (TSC+). Wedi ei ddarparu gan ACT, mae TSC+ yn rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16–19 oed sy’n eu helpu i feithrin y sgiliau, y cymwysterau a’r profiad maent eu hangen ar gyfer cyflogaeth neu hyfforddiant pellach. Gan ddeall nad yw unigolion yr un fath, mae TSC+ yn gwbl unigryw ac wedi’i deilwra i gyd-fynd ag anghenion y dysgwr unigol.
Caiff y cymhwyster Hunanddatblygiad a Lles ei ddarparu i’r garfan gyntaf o ddysgwyr y mis hwn, gydag unedau ar gael ar lefel Mynediad 3 a/neu Lefel 1 sy’n rhoi’r hyblygrwydd i ddewis unedau ar y lefel briodol i bob dysgwr.
Yn siarad am y cymhwyster, dywedodd Lewis Bowden, Rheolwr Gweithredol TSC+, “Rydym yn hynod gyffrous am y cymhwyster a’r hyn y bydd yn ei olygu i’n dysgwyr. Dyma’r cyntaf o’i fath ac mae’n delio’n uniongyrchol â’r materion rydyn ni’n eu gweld yn effeithio ar bobl ifanc heddiw. Mae wedi bod yn wych gweithio ochr yn ochr â CBAC i greu cymhwyster mor wych a chadarn ac edrychwn ymlaen at ei weld yn cael effaith wrth i ni ddechrau ei ddarparu i ddysgwyr.”
Hefyd yn gwneud sylw, dywedodd Bryan Davies, Swyddog Pwnc y cymhwyster yn CBAC: “Rydym yn angerddol am roi’r cyfle i ddysgwyr Cymru gyrraedd eu potensial, ac yn deall nad yw pob dysgwr yn dilyn yr un llwybr addysg. Dyna pam rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o bartneriaeth sy’n canolbwyntio ar ddatblygu llwybrau amgen i gyflogaeth drwy gymwysterau fel y rhain.
‘Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr yn ACT rydym wedi gallu creu cymhwyster arloesol a deniadol rydym yn hyderus y bydd yn cael effaith gadarnhaol ac yn helpu dysgwyr i ddatblygu llawer o’r sgiliau y mae eu hangen ar gyfer y gweithle heddiw. “