16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Mai 2024 / Dysgwyr Newyddion

Mae Thomas James, 38 oed, wastad wedi bod yn ddysgwr diwyd, ac wedi dilyn amrywiaeth o brentisiaethau drwy gydol ei yrfa. O gymhwyster Lefel 4 mewn Arwain a Rheoli i Weinyddiaeth Busnes Lefel 3, mae ganddo gyfoeth o wybodaeth a phrofiad!  

Fel Cydlynydd Prosiect ar gyfer Cwmpas, asiantaeth datblygu economaidd, roedd Thomas yn awyddus i ehangu ei wybodaeth ynglŷn â chyfryngau cymdeithasol felly fe gofrestrodd i wneud cymhwyster Cyfryngau Cymdeithasol Lefel 3 ar gyfer Busnes.

“Roeddwn i’n awyddus i ymgymryd â rhywbeth newydd ac roedd y cyfryngau cymdeithasol yn faes yn fy rôl lle’r oeddwn i’n teimlo y gallwn ddysgu mwy. I fi, roedd y cymhwyster yn cynnig cyfle i ddysgu am ddim a derbyn achrediad ar ei gyfer ar ei ddiwedd.” 

Mae’r Brentisiaeth Cyfryngau Cymdeithasol Lefel 3 ar gyfer Busnes yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau cyfryngau digidol amrywiol y gellir eu trosglwyddo ar draws sawl sector. Gan arfogi dysgwyr â’r wybodaeth, sgiliau a’r cymhwysedd i gefnogi systemau, prosesau a gwasanaethau busnes, mae’r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd fwy effeithiol a chynhyrchiol. 

Wrth siarad am y cymhwyster, dywedodd Thomas, “Rwyf wedi mwynhau’r cymhwyster yn fawr ac wedi hoffi fy mod i wedi  gallu dewis yr unedau oedd yn gweddu orau at fy anghenion gwaith. Mae unedau gorfodol yn datblygu eich gwybodaeth graidd ond mae yna ddewis enfawr o unedau y gallwch eu teilwra i’ch sefyllfa chi. Mae’n eich galluogi i dyfu eich gwybodaeth a’ch hyder ar yr un pryd. 

“I mi roedd dysgu am Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO) a chynyddu gwelededd brand yn addysg hanfodol ar gyfer ymgysylltu. Y canlyniad yw fy mod wedi addasu fy nulliau ac mae ymgysylltu â’m rhwydwaith wedi gwella’n fawr heb o reidrwydd orfod hysbysebu” 

Mae Thomas yn eiriolwr cadarn dros uwchsgilio mewn swydd ac mae’n credu bod prentisiaethau’n ddewis craff i unrhyw un sy’n awyddus i hybu eu dilyniant gyrfa – yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd bresennol.  

Dwi wastad wedi bod a brwdfrydedd ac uchelgais fawr i wella fy addysg. Roeddwn i’n gwybod fy mod i’n deilwng o yrfa ystyrlon a mwy o gyfleoedd ac yn cydnabod bod angen i mi arddangos hynny i wneud iddo ddigwydd. Manteisiais ar hyfforddiant sy’n rhad ac am ddim yng Nghymru! 

“Dwi wedi gweld newid o fod eisiau Lefel A a graddau penodol wrth recriwtio, wrth i fusnesau fel Cwmpas edrych am bobl gyda safon addysg dda sy’n addas i’r rôl rydych chi’n mynd amdani. Dyma lle mae prentisiaethau’n dod i mewn yn bendant! Does gen i ddim gradd mewn Rheolaeth ond mae gen i amrywiaeth o gymwysterau mewn Arwain a Rheoli, Gweinyddu Busnes a nawr y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n ffurfio pecyn da o sgiliau! 

Mae’r Cyfryngau Cymdeithasol yn enwedig, yn hanfodol yn y farchnad heddiw gan eu bod yn caniatáu i fusnesau ddenu ac ennyn diddordeb cwsmeriaid, tra’n cynyddu eu cyrhaeddiad yn y farchnad. Trwy ei gymhwyster Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes, gall Thomas gynllunio a gweithredu syniadau ar gyfer ymgyrchoedd marchnata i yrru busnes a chodi amlygrwydd ei brosiect gwaith presennol. 

“Y peth mwyaf mae’r cymhwyster wedi ei roi i fi yw’r hyder fy mod i’n gwneud rhywbeth yn iawn. Rydych chi’n fwy tebygol o wneud eich swydd yn well os ydych chi’n teimlo’n hyderus. Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi offer i chi fel bod gennych chi’r wybodaeth, yr hyder, y profiad a’r wybodaeth ynglŷn â’r ffordd orau o addasu eich dull gweithredu.” 

Gall dilyn prentisiaeth ochr yn ochr ag ymrwymiadau gwaith ymddangos yn anodd ond mae Thomas yn pwysleisio, gydag ymrwymiad a chefnogaeth, bod prentisiaeth yn opsiwn ymarferol i unrhyw un yn y gweithle. 

Byddwn yn argymell prentisiaethau yn llwyr i unrhyw un. Dydyn nhw ddim yn rhywbeth rydych chi ond yn eu gwneud pan rydych chi’n ifanc ac rydych chi o’r farn nad ydych chi’n berson academaidd. Mae’r meddylfryd hwn yn anghywir! Mae prentisiaethau’n ffordd hyfyw o uwchsgilio eich hun, gan ddangos eich bod yn gyfrifol ac wedi ymrwymo i ddysgu tra’n ennill hyder a bod yn gaffaeliad i’ch gweithle.  Hefyd, maen nhw am ddim!  

“Mae’r gefnogaeth gan ACT wedi bod yn wych hefyd. Mae’r aseswyr wastad wedi bod wrth law ac wedi darparu cryn dipyn o gysur, arweiniad ac wedi bod yn galonogol a hyblyg iawn. Mae fy ngwerth yn y gweithle wedi cynyddu ers cyflawni fy mhrentisiaethau ac rydw i nawr mewn sefyllfa i rannu fy ngwybodaeth gydag eraill yn y busnes.” 

Er mai dim ond yn ddiweddar y cwblhaodd ei gymhwyster Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes, mae Thomas eisoes wedi bod yn llygadu cymwysterau pellach a fydd yn ei alluogi i gyrraedd ei nod o fod yn Ymgynghorydd Busnes.  

“Rydw i wedi gwneud cais i wneud hyfforddiant Ymarferydd Cyfranddaliadau Cymunedol a fydd yn dangos fy sgiliau fel Ymgynghorydd Busnes. I mi, mae’n ymwneud â diogelu fy hun at y dyfodol ag ennill gymaint o sgiliau ac y gallaf.” 

Os hoffech chi ddysgu mwy am y cwrs Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes a sut y gall ddiogelu eich gyrfa yn y dyfodol cliciwch yma 

Rhannwch