16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Mae ACT yn ymwneud â phobl!

Ein pobl ni, eich pobl chi, a’r holl unigolion sydd allan yna sy’n awyddus i wella eu hunain, eu bywydau a’u rhagolygon gyrfaol.

Yn ACT, rydym i gyd yn hynod angerddol dros wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl drwy ddarparu rhaglenni dysgu a chyfleoedd rhagorol – ac mae pob un o’r 372 ohonom yn dod i’r gwaith bob dydd i wneud hynny’n union.

Rydym yn darparu rhestr hir o raglenni hyfforddi a chymwysterau sy’n helpu pobl go iawn i gyrraedd eu llawn botensial. O Jobs Growth Wales+, Prentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch ar draws 30 o sectorau gwahanol, i hyfforddiant cyflogadwyedd a chyrsiau masnachol byr, mae gennym rywbeth i bawb ac, dyma’r rhan dda, mae’r rhan fwyaf o’n hyfforddiant wedi’i ariannu’n llawn.

Gwella bywydau drwy ddysgu.

Bod y darparwr hyfforddiant mwyaf arloesol a chynhwysol yng Nghymru.

  • Bod yn gadarnhaol a meddu ar agwedd ‘gallu gwneud’
  • Ymfalchïo a chymryd cyfrifoldeb dros ragori ar ddisgwyliadau
  • Helpu dysgwyr i godi a gwireddu eu dyheadau
  • Cael hwyl wrth ddarparu gwasanaethau proffesiynol, diogel a chyfeillgar
  • Dangos parch at unigolion

Lawrlwythwch yr Adroddiad Effaith llawn yma.

Ein Fframwaith Ymddygiad

 

Pam Dewis ACT?

Dim celwydd, mae hyfforddiant wedi’i ariannu’n llawn yn atyniad mawr, ond y prif reswm y mae pobl yn dewis ACT yw oherwydd ein bod yn rhagorol yn yr hyn rydym yn ei wneud. Wedi’n sefydlu ym 1988, mae gennym gyfoeth o brofiad o ddarparu hyfforddiant pwrpasol i unigolion a chyflogwyr yng Nghymru.

o bobl ifanc

5,000
wedi cyflawni eu huchelgeisiau gyrfaol drwy ein rhaglenni hyfforddi 2021/22

y cant...

83
o’n dysgwyr sy’n symud ymlaen i gyflogaeth neu addysg uwch

o gyflogwyr

600
wedi ymgysylltu â ni y llynedd i uwchsgilio eu gweithlu presennol drwy ein rhaglenni Prentisiaeth

Er ein bod yn darparu llawer iawn o hyfforddiant, nid ydym yn cyfaddawdu o ran ansawdd. Rydym yn falch iawn o’n gwaith ac yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth rhagorol bob tro. Rydym yn falch o allu dweud bod gennym gyfradd lwyddo o 85%, sy’n golygu bod cyfran uchel iawn o’n dysgwyr yn cwblhau eu hyfforddiant yn llwyddiannus, ac mae 96% yn credu ein bod yn wych.

Rydym yn ennill gwobrau

Rydym wrth ein bodd â’r hyn rydym yn ei wneud, ac, heb canu ein cloch, rydym yn dda iawn am ei wneud. Mae rhai o lwyddiannau diweddar ein cwmni, ein staff a’n dysgwyr yn cynnwys:

  • Cyflogwr y Flwyddyn y DU: Platinwm (250+), yng Ngwobrau Buddsoddwyr mewn Pobl 2021
  • Achrediad Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl ers 2020
  • Achrediad Aur Buddsoddwyr mewn Pobl 2012–2019
  • 7fed Cyflogwr Aur Gorau (gyda 250–4,999 o weithwyr) yng Ngwobrau
  • Buddsoddwyr mewn Pobl blynyddol 2017
  • Karen Richards, Tiwtor Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn, 2021
  • Stella Vasiliou, Dysgwr Hyfforddeiaeth y Flwyddyn (Lefel 1), 2018
  • Carly Murray, Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn, 2018
  • Kirsty Keane, Tiwtor Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn, 2018
  • Emily Wintle, Dysgwr Hyfforddeiaeth y Flwyddyn (Lefel 1), 2017
  • Ros Smith, Tiwtor Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn, 2017
  • Chris Hughes, Tiwtor Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn, 2016
  • Janet Bevan, Prentis Uwch y Flwyddyn, 2015
  • Cory Rowlands, Dysgwr Hyfforddeiaeth y Flwyddyn (Lefel 1), 2015
  • Louisa Gregory, Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn, 2015
  • Gwobr Darparwr am Weithio mewn Partneriaeth, 2015
  • 39fed Cwmni Mawr Gorau i Weithio iddo yn y DU, 2021
  • 5ed Cwmni Addysg a Hyfforddiant Gorau i Weithio iddo yn y DU, 2021
  • Achrediad 3 Seren Best Companies, 2021
  • Cwmnïau Gorau’r Sunday Times yn y DU 2020, 2019, 2018, 2015, 2014 a 2012

Busnes Mawr Cyfrifol y Flwyddyn, yng Ngwobrau Busnes Cyfrifol Busnes yn y Gymuned Cymru 2018

Ond digon amdanom ni, gadewch i ni siarad amdanoch chi!

Os ydych chi’n:

  • Yn gadael yr ysgol ac yn awyddus i ennill profiad gwerthfawr a fydd yn eich helpu i gamu i fyd gwaith
  • Ddim yn mynd i’r brifysgol ac yn chwilio am opsiwn arall sydd â rhagolygon gyrfaol gwych
  • Yn gyflogedig ar hyn o bryd ac yn awyddus i ennill sgiliau a chymwysterau pellach i wella eich datblygiad proffesiynol
  • Yn ddi-waith ac yn awyddus i wella eich cyflogadwyedd a dychwelyd i’r gwaith
  • Yn rheolwr neu’n berchennog busnes sy’n dymuno uwchsgilio ei weithlu, sydd â diddordeb mewn cyflogi Prentis, neu sy’n gallu cynnig profiad gwaith gwerthfawr i berson ifanc 16–18 oed

Rydym yma i chi! Mae ein tîm o diwtoriaid, aseswyr ac ymgynghorwyr ymroddedig yn barod i ddod o hyd i raglen neu gymhwyster sy’n addas i chi a’ch anghenion.

City and Guilds
Apprenticeships
Leader in Diversity Gold Logo
Business in the Community
British Assessment Bureau_British Assessment Bureau
ILM Logo
Wales Best Companies 2025
The UK's Top 50 Best large companies
Education & Training's Top 10 Best organisations to work for 2025
Community Partner