16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Mai 2024 / Dysgwyr

Mae carfan o ddysgwyr ACT wedi dathlu deunaw mis o gynnydd yn ddiweddar er gwaethaf amgylchiadau anodd.

Dangosodd y dysgwyr ESOL, a adawodd Wcráin oherwydd y gwrthdaro cynyddol, eu sgiliau iaith Saesneg mewn digwyddiad i ddiolch i’w tiwtor.

Trefnwyd y cynulliad bach, oedd yn cynnwys  bwffe o brydau Wcreineg traddodiadol, i nodi diwedd y ddarpariaeth ESOL benodol hon a gynhaliwyd mewn partneriaeth ag Oasis – elusen yng Nghaerdydd sy’n helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i integreiddio yn eu cymuned leol.

Yn y cyflwyniad, rhoddodd nifer o ddysgwyr araith yn Saesneg gan gyflwyno blodau i’w tiwtor yn ogystal phoster yn cofnodi eu cynnydd.

Ers dechrau’r cwrs, mae’r dysgwyr – gyda chymorth tiwtor Wcreineg ACT, Diana Oleksuik – wedi cyflawni eu cymhwyster ESOL yn ogystal â’u Sgiliau Hanfodol, sy’n cynnwys cymwysterau rhifedd a llythrennedd digidol sylfaenol.

Dywedodd Leon Patnett, Pennaeth Ymgysylltiad a Hyfforddiant Ieuenctid ACT: “Mae’r dysgwyr ifanc hyn wedi dod i Gymru o dan amgylchiadau anodd; Er gwaethaf hyn maen nhw wedi cofleidio’r her o ddysgu iaith newydd a mabwysiadu diwylliant hollol newydd.

“Rydyn ni’n falch iawn o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni yn eu hamser gyda ni ac mae gweld y gwelliant yn eu Saesneg o’r adeg pan gyrhaeddon nhw at nawr yn anhygoel.

“Cawsom hefyd y cyfle yn y digwyddiad i gadarnhau y bydd prosiect ESOL yn parhau am ychydig mwy o fisoedd er mwyn helpu rhai o’r dysgwyr i drosglwyddo i gyrsiau coleg o leoliad newydd yn y Barri.”

Rhannwch