16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 2

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Ymgeisiwch nawr

Ynglŷn â’r cwrs hwn:

Nod ein Prentisiaeth Cymorth Gofal Iechyd Clinigol Lefel 2 yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar ddysgwyr i gefnogi gweithwyr clinigol proffesiynol a’r tîm Gofal Iechyd ehangach.

 

Bydd y cwrs yn eich cynorthwyo i ymgymryd â’ch cyfrifoldebau mewn lleoliad clinigol yn broffesiynol ac yn fedrus. Bydd yn eich galluogi i gefnogi rhediad esmwyth yr amgylchedd clinigol.

  • Dysgwyr sy’n gweithio mewn rôl anghlinigol mewn amgylchedd Gofal Iechyd
  • Gweithwyr cymorth sy’n gweithio ochr yn ochr â gweithwyr iechyd proffesiynol a’r tîm Gofal Iechyd ehangach i’w galluogi i gyflawni eu rolau’n effeithiol.

 

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

 

Unedau Gorfodol

  • Cyflwyniad i ddatblygiad personol
  • Cyflwyniad i gyfathrebu
  • Cyflwyniad i Gydraddoldeb a Chynhwysiant
  • Rôl y gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Cyfrannu at iechyd a diogelwch. 

    Unedau Dewisol

     

     

  • Cyfrannu at effeithiolrwydd tîm
  • Casglu llieiniau a gwneud gwelyau mewn lleoliadau gofal iechyd.
  • Lleihau’r risg o haint wrth gael gwared â llieiniau a ddefnyddiwyd.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

 

Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd  yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn, gall dysgwyr llwyddiannus symud ymlaen at ein cymhwyster Gwasanaethau Cymorth Gofal Iechyd Lefel 3. Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster.

Mae cyfleoedd cyflogaeth pellach yn cynnwys:

  • Gweithwyr cymorth gofal iechyd
  • Clercod Ward
  • Clercod Cofnodion Meddygol / Iechyd
  • Porthorion
  • Cadw tŷ
  • Arlwyaeth
  • Garddwr

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
  • Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma

 

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 2

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Ymgeisiwch nawr