16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Ymgeisiwch nawr

Ynglŷn â’r cwrs hwn:

Mae ein Diploma Lefel 3 mewn Cymorth Amdriniaethol wedi’i gynllunio i gefnogi unigolion i ddod yn aelodau medrus a llwyddiannus o dîm clinigol, gan ddarparu gofal person-ganolog i gleifion mewn lleoliad ysbyty.

 

Bydd y cwrs hwn yn galluogi dysgwyr i ddarparu’r ymyriadau cywir, cofnodi ac adrodd am gleifion yn eu gofal gyda chywirdeb ac i sicrhau bod y gofal a’r driniaeth orau yn cael eu darparu.

Mae’r Brentisiaeth hon ar gyfer ymgeiswyr sy’n cefnogi gofal cleifion cyn, yn ystod ac ar ôl bod mewn theatr ysbyty.

Mae’n ddewis amgen i’n cymhwyster Lefel 3 Iechyd Clinigol.

Bydd gofyn i ddysgwyr gwblhau cymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).

 

Gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i,

 

  • Cynnal Safonau Ansawdd yn y Sector Gofal Iechyd
  • Lleihau haint mewn lleoliad gofal iechyd
  • Egwyddorion diogelu ac amddiffyn mewn iechyd a gofal cymdeithasol
  • Arferion person-ganolog, amrywiaeth, cydraddoldeb ac ymarfer gynhwysol
  • Helpu i ddarparu gofal a chymorth amdriniaethol i gleifion

 

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd  yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster.

Mae cyfleoedd cyflogaeth pellach yn cynnwys:

  • Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Amdriniaethol

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Apprenticeship

Lefel

Level 3

Lleoliad

Work-based learning

Dyddiad cychwyn

Flexible start dates

Cost

Fully-funded
Ymgeisiwch nawr