16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

ACT – Canllaw i Ysgolion

Mae’r canllaw cyflym hwn yn rhoi trosolwg byr o’r cymwysterau,  y cyfleoedd datblygiad proffesiynol a’r gefnogaeth y gall ACT eu cynnig i’ch staff arbennig.

Yn ACT, rydym yn hynod frwd dros wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl trwy ddarparu rhaglenni a chyfleoedd dysgu rhagorol.

Rydym wedi gweithio’n agos gyda dros 480 o ysgolion i ddarparu rhaglenni hyfforddiant o ansawdd uchel, gan gefnogi ysgolion a’r sector addysg ehangach i fodloni eu gofynion datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ac i sicrhau bod gan staff yr wybodaeth a’r adnoddau sydd eu hangen arnynt, yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.

Gall ACT a’n chwaer gwmni ALS ddarparu’r gwasanaeth hwn, a ariennir yn llawn, oherwydd ein bod yn rhan o Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro, un o’r grwpiau coleg mwyaf yn y DU. Gyda’n gilydd, ni yw’r darparwr hyfforddiant seiliedig ar sgiliau mwyaf yng Nghymru.

Gyda chefnogaeth cyllid Llywodraeth Cymru, gall ACT ac ALS helpu i uwchsgilio’ch staff er mwyn diwallu  anghenion unigryw eich ysgol.

Y cymwysterau, y cyfleoedd datblygiad proffesiynol a’r cymorth y gall Cymorth Ysgolion eu cynnig i’ch staff anhygoel:

  • Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 2
  • Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 3
  • Ymarferydd Dysgu Digidol Lefel 3
  • Cyngor ac Arweiniad Lefel 4
  • Cyngor ac Arweiniad Lefel 4
  • Dadansoddeg Data Lefel 4
  • Diogelwch Gwybodaeth Lefel 4
  • TG – Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Cyfrifiadura Lefel 4
  • Gweinyddu Busnes Lefel 3
  • Gweinyddu Busnes Lefel 4
  • Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes Lefel 1
  • Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes Lefel 2
  • Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes Lefel 3
  • Adeiladu Hyder
  • Sgiliau Gwydnwch
  • Cymhwyster CIPD mewn Ymarfer Pobl Lefel 3
  • Cymhwyster CIPD mewn Dysgu a Datblygiad Sefydliadol  Lefel 5
  • Cymhwyster CIPD mewn Rheoli Pobl Lefel 5
  • Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif Lefel 1-3
  • Sgiliau Hanfodol Cyfathrebu Lefel 1-3
  • Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Mynediad 1 – Lefel 3
  • Cymorth Cyntaf Pediatrig Lefel 3
  • Cymorth Cyntaf yn y Gwaith
  • Cyflwyniad i Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Lefel 2
  • Deall Iechyd Meddwl yn y Gweithle i Reolwyr Lefel 3
  • Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Oedolion Lefel 2
  • Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Ieuenctid Lefel 2
  • Iechyd a Diogelwch Lefel 2
  • Symud a Thrin Diogel Lefel 2
  • Asesiad Risg Lefel 2
  • Dyfarniad mewn Egwyddorion Diogelwch Tân Lefel 2
  • Dyfarniad mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo Lefel 2
  • Dyfarniad mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo Lefel 3
  • Gwasanaethau Glanhau a Chymorth Lefel 2
  • Rheoli Cyfleusterau Lefel 3
  • Rheoli Ynni a Charbon (Sero Net) Lefel 3
  • Dyfarniad mewn Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd Gwyrdd Lefel 2

Yn ACT rydym wedi ymrwymo i gynnig y cyfleoedd hyfforddiant gorau yng Nghymru. Rydym am i’ch disgyblion wneud y penderfyniad cywir am eu dyfodol ac mae gennym dîm o arbenigwyr wrth gefn i sicrhau bod hynny’n digwydd. Gan weithio’n agos iawn gydag ysgolion a dosbarthiadau chweched ar draws De Cymru, mae ein ‘tîm ysgolion’ ymroddedig yn cefnogi athrawon, addysgwyr a chynghorwyr gyrfaoedd i gyflwyno’r wybodaeth fwyaf defnyddiol a pherthnasol i fyfyrwyr o Flwyddyn 7 hyd at Flwyddyn 13.

Ein nod yw helpu ysgolion lleol a cholegau chweched dosbarth i roi’r wybodaeth a’r cyngor gorau i bobl ifanc am eu rhagolygon yn y dyfodol. Trwy amrywiaeth o weithdai, cyflwyniadau, sgyrsiau a sesiynau pwrpasol, gall ein tîm weithio’n agos gyda’ch staff, a rhoi cyngor diduedd a hynod ddefnyddiol i’ch holl ddisgyblion sy’n ystyried beth i’w wneud pan fyddant yn gadael yr ysgol.

Gweler ein canllaw Gweithgareddau a Digwyddiadau yma.

Gwasanaethau y gallwn eu darparu ar gyfer ysgolion a disgyblion:

Mae ein sesiynau ar gyfer gwasanaethau yn rhoi cyflwyniad i ACT a’r cyrsiau a’r cyfleoedd rydym yn eu cynnig i ddisgyblion ôl-16. Gellir teilwra cyflwyniadau ar gyfer grwpiau blwyddyn penodol.

Addas ar gyfer Blwyddyn: 10, 11, 12 a 13
Hyd: Hanner awr
Dull cyflwyno: Fideo wyneb yn wyneb, wedi’i recordio ymlaen llaw a / neu sesiwn holi ac ateb byw trwy Microsoft Teams.

Os yw eich ysgol yn trefnu ffair gyrfaoedd, rydym yn hapus i ddod i siarad â’ch disgyblion am y cyfleoedd a gynigir gan ACT. Gallwn deilwra ein darpariaeth i’ch anghenion unigol. Gallwn hefyd ddod ag offer rhyngweithiol ‘rhowch gynnig arni’ sy’n arddangos yr amrywiaeth o lwybrau gyrfa sydd ar gael gennym ac sy’n rhoi cyfle i ddisgyblion roi cynnig ar sgiliau newydd drwy weithgareddau hwyliog a rhyngweithiol.

Addas ar gyfer Blwyddyn:  Pob blwyddyn
Hyd: Diwrnod llawn neu hanner diwrnod
Dull cyflwyno: Wyneb yn wyneb

Rydym yn cynnal gweithdai ysgrifennu CV a pharatoi ar gyfer cyfweliadau, yn ogystal â chefnogi ffug gyfweliadau, gan helpu i baratoi disgyblion ar gyfer byd gwaith.

Addas ar gyfer Blwyddyn: 10, 11, 12 a 13
Hyd: Diwrnod llawn neu hanner diwrnod
Dull cyflwyno: Wyneb yn wyneb

Bydd disgyblion yn cael y cyfle i gael taith o amgylch eu canolfan ACT agosaf a’i chyfleusterau. Gallant hefyd gymryd rhan mewn sesiynau blasu penodol lle byddant yn profi’r gwahanol gyrsiau sydd gennym ar gael. Gallwch ofyn am faes diddordeb penodol a byddwn yn gwneud ein gorau i ddiwallu eich anghenion.

Yn addas ar gyfer Blwyddyn: 10, 11 a 12
Hyd: Hanner diwrnod
Dull cyflwyno: Wyneb yn wyneb

Os oes gennych ddiddordeb yn un o’n cyrsiau, mewn archebu unrhyw un o’n gweithgareddau neu am gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch info@acttraining.org.uk neu ffoniwch 029 2270 7070.