16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Hyfforddiant oedolion a ariennir

Yn ACT, rydym yn cynnig cannoedd o gymwysterau dysgu seiliedig ar waith sy’n gymwys ar gyfer amrywiaeth o ffynonellau cyllid, fel ReAct+ a chyllid Addysg Bellach (AB) rhan-amser.

Mae Dysgu am Waith yn arbenigo mewn cynnig ystod o gymwysterau rhan-amser ac AB a ariennir sy’n helpu i wneud dysgu’n agored i bawb, gan ddileu rhwystrau posibl i oedolion sy’n edrych i symud ymlaen mewn dysgu a chyflogaeth.

 

Ond beth mae hynny’n ei olygu mewn gwirionedd?

Gyda chefnogaeth cyllid Llywodraeth Cymru, gallwch gael mynediad at ystod o gyrsiau byr a chymwysterau rhan-amser wedi’u hariannu‘n llawn, gyda’r nod o’ch cefnogi i ennill y sgiliau a’r cymwysterau cywir i roi hwb i’ch cyflogaeth, newid gyrfa, neu symud ymlaen i rôl gyflogaeth uwch.

 

Mae Dysgu am Waith yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau a chymwysterau yn y sectorau canlynol:

  • Cyfrifeg a Chadw Llyfrau
  • Harddwch, Trin Gwallt a Gwaith Barbwr
  • Gwasanaethau Busnes
  • Gwasanaeth Cwsmeriaid
  • Gofal Plant a Chwarae
  • Adeiladu Hyder
  • Addysg a Dysgu
  • Sgiliau Hanfodol
  • Cymorth Cyntaf
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Iechyd a Diogelwch
  • TG a Sgiliau Digidol
  • Rheolaeth a Hyfforddi
  • Iechyd Meddwl
  • Cynaliadwyedd

 

I fod yn gymwys ar gyfer ein cyrsiau AB rhan amser a ariennir, rhaid i chi fodloni’r meini prawf canlynol:

• Bod yn 16 oed neu’n hŷn ar y 1af o Awst• Byw yng Nghymru

Os ydych eisoes yn derbyn cyllid ar gyfer rhaglen AB llawn amser, ni allwch dderbyn cyllid ar gyfer rhaglen ran-amser yn yr un flwyddyn academaidd.Bydd lefel sgiliau pob dysgwr yn cael eu hasesu wrth gofrestru. Bydd ACT yn sicrhau bod pob dysgwr yn cael eu cofrestru ar gyfer cymhwyster ar y lefel briodol.

 

Sut ydw i’n gwneud cais am gyrsiau AB rhan-amser a ariennir?

Os ydych chi’n barod i wneud cais neu os ydych chi eisiau gwybod mwy am ein rhaglen Dysgu am Waith, cysylltwch â’n tîm heddiw.

"Stella delivered the MHFA course with sensitivity and compassion. The timing of each session was appropriate and gave sufficient time to digest the information received."
Mental Health First Aid learner
"I would encourage all colleagues to attend this course and for any other organisation looking for a training provider, to look into ACT"
First Aid learner
"Joe was a really excellent tutor, he pitched the level perfectly for the audience's level of experience"
First Aid learner