16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 3

Lleoliad

Dysgu seiliedig ar waith

Dyddiad cychwyn

o fis Gorffennaf 2023

Cost

Wedi'i ariannu'n llawn
Ymgeisiwch nawr

Ynglŷn â’r cwrs hwn

Mae ein Diploma Rheoli Ynni a Charbon Lefel 3 yn edrych ar y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer rheoli’r defnydd o ynni ac allyriadau carbon mewn sefydliad. Mae hefyd yn ystyried cynaliadwyedd adnoddau gan gynnwys rheoli dŵr a gwastraff. Mae’r cymhwyster hwn yn bodloni’r agenda carbon sero yng Nghymru, mae hefyd yn ystyried effaith defnyddio ynni ac allyriadau carbon ar yr amgylchedd yn lleol ac yn fyd-eang.

Mae’r cymhwyster Prentisiaeth hwn yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sy’n gweithio mewn rôl rheoli ynni neu debyg, mewn sefydliadau o bob maint a sector. Mae hefyd yn briodol i bobl sy’n gweithio mewn rôl rheoli cyfleusterau, cyllid neu unrhyw rôl arall sydd â chyfrifoldeb am reoli ynni a charbon o fewn eu sefydliad.

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol. Byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes.

Mae’r unedau gorfodol yn cynnwys:

  • Egwyddorion Rheolaeth Ynni a Charbon
  • Dadansoddiad o’r Defnydd o Ynni ac Allyriadau Carbon
  • Newid Ymddygiad yn y Gweithle
  • Rhwydweithio Proffesiynol ar gyfer Rheoli Ynni a Charbon
  • Iechyd a Diogelwch mewn Amgylchedd Rheoli Ynni
  • Gwella Ansawdd yn eu Maes Gwaith Rheoli Carbon ac Ynni eu Hunain
  • Datblygu Perthynas Weithio gyda Chydweithwyr

Mae unedau dewisol enghreifftiol yn cynnwys:

  • Caffael Ynni
  • Rheoli Prosiectau Ynni a Charbon
  • Rheoli Carbon Trafnidiaeth
  • Rheoli Gwastraff
  • Ymgysylltu â’r Gymuned
  • Meddalwedd Taenlen

Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych chi’n ei chwblhau, a’ch anghenion penodol chi.

 

Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.

Ar ôl cofrestru, dyrennir asesydd i bob dysgwr hefyd. Drwy gydol y cymhwyster, bydd yr asesydd yn cwrdd â’r dysgwr naill ai yn y gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) bob mis, i gefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau. Bydd gofyn i ddysgwyr gwblhau tasgau penodol rhwng pob ymweliad gan yr asesydd, am oddeutu 4 awr y mis (nodwch – canllaw yn unig yw hwn a bydd yn amrywio yn seiliedig ar anghenion y dysgwr).

Yn ogystal, rydym hefyd yn cynnal cyfres o weithdai a fydd yn helpu i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich cymhwyster. Cyflwynir y gweithdai hyn gan ddefnyddio cyfuniad o ddarpariaeth wyneb yn wyneb ac ar-lein ac mae pob gweithdy fel arfer yn 2.5 i 3 awr o hyd. Mae gweithdai ar gael i’r holl ddysgwyr eu harchebu ac maent yn cael eu cynnal yn aml.

Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog, drwy gydol eu cymhwyster, i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol.

Mae cyfleoedd cyflogaeth yn cynnwys:

  • Rôl Rheolaeth Ynni neu Reolaeth Ynni Uwch
  • Ymgynghoriaeth Sero Net
  • Iechyd a Diogelwch yr Amgylchedd

Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:

  • yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
  • yn byw yng Nghymru
  • ddim mewn addysg llawn amser
  • ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru

Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma.

Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:

  • fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
  • gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
  • ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
  • gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
  • cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru

Math o gwrs

Prentisiaeth

Lefel

Lefel 3

Lleoliad

Dysgu seiliedig ar waith

Dyddiad cychwyn

o fis Gorffennaf 2023

Cost

Wedi'i ariannu'n llawn
Ymgeisiwch nawr