16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Ynglŷn â’r Brentisiaeth hon

Mae cyfle cyffrous wedi codi i weithio o fewn y Tîm Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol sy’n canolbwyntio ar gyfathrebu, datblygu a hyfforddi mewnol holl staff a rheolwyr Cyngor Dinas Casnewydd. Bydd y Prentis Dysgu a Datblygu yn cynorthwyo’r tîm gydag amrywiaeth o dasgau tra’n cwblhau cymhwyster Dysgu a Datblygu.

Polisi a Thrawsnewid Pobl wedi’i leoli yn y Tîm Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol AP19

Mae gennym amrywiaeth o brentisiaethau ar gael gyda chyflogaeth a hyfforddiant cychwynnol yn cael eu cynnig tan 31 Mawrth 2025.  Byddwch yn derbyn cyflog cystadleuol ar lefel Cyflog Byw Gwirioneddol o £21,030 y flwyddyn ar gontract 37 awr yr wythnos.

Fel un o gyflogwyr mwyaf y Ddinas, rydym yn awyddus i gyflogi prentisiaid ifanc sydd â’r cymhelliant, yr ymrwymiad a’r gwerthoedd cywir i weithio yn ein rolau gwerth chweil a boddhaus.   Byddwch yn cael eich cyflogi gan y Cyngor ac yn treulio rhan o’ch amser yn gweithio i ni tra hefyd yn astudio i ennill y cymhwyster prentisiaid.  Wrth weithio i ni, byddwch yn derbyn mentoriaeth ac arweiniad a chymorth drwy eich cyflogaeth, gan hefyd gael eich cefnogi i ymgymryd ag elfen gymhwyster y rhaglen brentisiaeth.

Ein nod yw adeiladu gweithlu sy’n cynrychioli’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac felly rydym yn annog ceisiadau gan bobl lleiafrifoedd ethnig, pobl LHDTC+ a phobl anabl, yn ogystal â phobl sy’n gadael gofal. Mae gan y cyngor nifer o rwydweithiau staff sy’n cynnig cymorth cymheiriaid i staff o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Os hoffech siarad ag aelod o’r rhwydwaith am sut beth yw gweithio i’r cyngor, anfonwch e-bost at nccequality@newport.gov.uk

Casnewydd

37 awr yr wythnos

Dydd Llun – Gwener

£21,030 y flwyddyn

Tachwedd 6th,  2023

 

 

Dyletswyddau

  • Hyfforddiant
  • Creu cylchlythyrau
  • Bod yn rhan o grwpiau ffocws
  • Creu cyrsiau e-ddysgu
  • Ateb e-byst
  • Cyfeirio staff at yr hyfforddiant priodol
  • Trefnu cyfarfodydd
  • Trefnu apwyntiadau
  • Diweddaru cofnodion hyfforddi staff

Gofynion

Fodd bynnag, nid oes angen profiad ffurfiol ar gyfer y brentisiaeth hon

  • Addysg i Safon TGAU gan gynnwys Graddau A*-C (neu 4-8) mewn Saesneg a Mathemateg.
  • TGCh/Profiad Digidol.
  • Bydd angen dealltwriaeth gadarn a rhesymegol o’r rhaglen brentisiaeth a gynigir.
  • Sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol.

Sgiliau

  • Cymraeg Iaith TGAU gradd A-C.
  • Gwybodaeth am wasanaethau’r Sector Cyhoeddus.
  • Cyfforddus yn Microsoft Office a’r gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm.

Dod yn Brentis