16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Gor 2024 / Company

SkillsCymru yw’r digwyddiadau mwyaf ar gyfer gyrfaoedd, swyddi a sgiliau yng Nghymru, sy’n cae eu cynnal yn Llandudno a Chaerdydd. Yn ddigwyddiadau rhyngweithiol ac ysbrydoledig iawn, un nod sydd ganddynt sef rhoi cyfle unigryw i bobl ifanc ddarganfod pwy allen nhw fod. O’r amrediad eang o gyflogwyr sy’n cynnig prentisiaethau mewn sectorau diwydiant allweddol i brifysgolion a cholegau sy’n cynnig atebion i ymholiadau am lwybrau gyrfa, cynghorau sgiliau sector a chyrff cyngor gyrfaoedd,  SkillsCymru yw’r siop un stop ar gyfer gyrfaoedd yng Nghymru.  

Mae digwyddiadau hynod ryngweithiol SkillsCymru yn cynnig dysgu drwy brofiadau, fel creu gardd o’r cychwyn cyntaf, dadansoddi man trosedd, darllen y newyddion a llawer iawn mwy. Mae arddangosiadau’n helpu ymwelwyr i ganolbwyntio ar feysydd sydd o ddiddordeb, yn ogystal â’u hannog i archwilio llwybrau gwahanol i mewn i amrediad anferth o gyfleoedd gyrfa. Yn rhad ac am ddim i’w fynychu!

*Mae bwrsari teitio ar gael i grwpiau sy’n neilltuo lle am fwy na 45 o fyfyrwyr. Rydym yn argymell bod grwpiau blwyddyn cyfan yn mynychu o Flynyddoedd 10, 11, 12 a 13. Gall grwpiau o ddysgwyr o golegau a sefydliadau fynychu mewn grwpiau tiwtor neu grwpiau galwedigaethol llai o faint.

Manteision: (Benefits)

Gallwch chi gwrdd â:

  • Chyflogwyr o’r sectorau preifat a chyhoeddus
  • Colegau addysg bellach
  • Prifysgolion
  • Darparwyr Hyfforddiant
  • Cynghorau Sgiliau Sector

I gyd o dan un to!

Llandudno, Venue Cymru, 7-8 Hydref

Caerdydd, Arena Motorpoint, 21-22 Hydref

Cadwch eich lle chi yma: http://www.skillscymru.co.uk/

Ar gyfer: Rhieni/gofalwyr

Bydd SkillsCymru yn galluogi pobl ifanc i roi cynnig ar amrediad eang o gyfleoedd swydd a hyfforddiant a chael eu hysbrydoli am eu gyrfaoedd yn y dyfodol. P’un a ydyn nhw’n dewis mynd i brifysgol/coleg neu ymgymryd â phrentisiaeth, dewis yr yrfa gywir iddyn nhw yw’r cam cyntaf tuag at benderfynu pa addysg bellach mae arnyn nhw ei hangen i’w chyflawni.  Cyflogwyr oedd 68% o’r holl arddangoswyr yn 2014. Mae digwyddiadau hynod ryngweithiol SkillsCymru yn croesawu mwy na 100 o gyrff sy’n ysbrydoli hyd at 10,000 o ymwelwyr

Mae’r holl arddangoswyr yn awyddus i ddenu sylw’ch pobl ifanc a dangos iddyn nhw sut peth yw gyrfa yn eu hesgidiau nhw. Bydd y gweithgareddau yn gadael iddyn nhw archwilio’r dewisiadau aruthrol o ran gyrfa sydd ar gael; gan gwrdd â chyflogwyr o sectorau diwydiant allweddol sy’n cynnig prentisiaethau, prifysgolion a cholegau sy’n ateb ymholiadau am lwybrau tuag at yrfa, darparwyr hyfforddiant a chyrff  cyngor gyrfaoedd. Os dymunwch sicrhau bod eich plentyn chi’n gwneud y dewis cywir o ran gyrfa iddyn nhw, bydd yr ysbrydoliaeth a’r arbenigedd priodol ar gael yn SkillsCymru.

Dewch draw i’r noson agoriadol a gweld drosoch eich hunan:

Llandudno, Venue Cymru, 7 Hydref 5pm-7pm

Caerdydd, Arena Motorpoint, 21 Hydref 5pm-7pm

Os na allwch chi ddod i’r sesiwn noson bwrpasol, mae’r digwyddiadau ar agor ar y dyddiadau a’r amserau canlynol hefyd:

Llandudno, Venue Cymru, 8 Hydref 9.30am-3pm

Caerdydd, Arena Motorpoint, 21Hydref 9.30am-3pm

Caerdydd, Arena Motorpoint, 22Hydref 9.30am-3pm

Dysgwch fwy yma: http://www.skillscymru.co.uk/

 

Rhannwch