16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Mai 2024 / Company

Rydym ni wrth ein bodd yn cyhoeddi bod dysgwyr ACT ymhlith rhai o’r enillwyr llwyddiannus a gyhoeddwyd yn y Gwobrau Ysbrydoli Sgiliau eleni.

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn cynnwys cyfres o gystadlaethau sgiliau lleol, sy’n cyd-fynd â chystadlaethau WorldSkills ac anghenion economi Cymru.

Darlledwyd y digwyddiad a gynhaliwyd ar 17 Mawrth yn fyw i chwe chanolfan loeren a oedd yn cynnal ‘parti gwylio’ ym mhob un ohonynt. Yn ystod y noson hefyd, cyflwynwyd gwobrau gan Richard Spear, Rheolwr Gyfarwyddwr ACT a Jonathan Edwards, Llysgennad Sgiliau ACT fel rhan o’r seremoni.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei redeg gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw codi proffil sgiliau yng Nghymru. Mae’r Gystadleuaeth Sgiliau yn cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid herio, meincnodi a chodi eu sgiliau trwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws ystod o sectorau.

Mae cystadlaethau’n rhychwantu Peirianneg, Adeiladu, y Cyfryngau, Lletygarwch a TG. Mae Gwobrau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn cydnabod llwyddiannau’r dysgwyr sydd wedi cymryd rhan yn SCW rhwng Ionawr a Chwefror 2022 ac sydd wedi llwyddo i ennill medalau Aur, Arian neu Efydd. Mae’r digwyddiadau dathlu yn cynnig cyfle i unigolion a sefydliadau gael eu cydnabod a’u gwobrwyo am eu hymrwymiad, eu gwaith caled, eu cyflawniadau a’u llwyddiant yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Dyma enillwyr llwyddiannus y noson:

Medal Aur

Kavan Cox o Hyfforddeiaeth Aberdâr ar gyfer Gwasanaeth Cwsmeriaid

Sara Queen o Prentisiaethau ACT ar gyfer Cyfrifeg

Stephanie Watkins o Prentisiaethau ACT ar gyfer Cyfrifeg

Medal Efydd

Kain Davies o Hyfforddeiaethau Aberdâr ar gyfer Gwasanaeth Cwsmeriaid

Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd Becky Morris, Pennaeth Gwelliant Parhaus, “Rwy’n hynod falch o’n holl ddysgwyr a’u cyflawniadau, yn ogystal â’r aseswyr a’r tiwtoriaid a chwaraeodd ran allweddol yn eu cefnogi. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn ffordd wych i ddysgwyr arddangos eu doniau ac mae’n wych gweld ACT yn cael ei chynnwys ymhlith y medalau.”

Rhannwch