16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
Mai 2024 / Newyddion

Mae darparwr hyfforddiant yn Ne Cymru bellach yn cynnig hyfforddiant wedi’i ariannu i bobl sydd am roi hwb i’w sgiliau mathemateg.

Mae darparwr hyfforddiant o dde Cymru, ACT, wedi derbyn contract i ddarparu’r cynllun Lluosi – cynllun llywodraeth gwerth £559 miliwn gyda’r nod o wella sgiliau rhifedd ledled Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae’r cwrs Lluosi yn cael ei gynnig ar hyn o bryd i unrhyw un dros 19 oed sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf neu Bro Morgannwg.

Mae’r cymhwyster yn cefnogi sgiliau bywyd – h.y. mathemateg mewn lleoliadau bywyd go iawn – a’i nod yw hybu cyfleoedd cyflogaeth, cynaliadwyedd swyddi a helpu rhieni i gynnal sgiliau rhifedd eu plant.

Gall dysgwyr ddilyn cyrsiau sylfaenol neu opsiynau uwch, yr unig amod yw nad oes ganddynt TGAU gradd C mewn Mathemateg neu’n uwch eisoes.

Mae’r cwrs yn hyblyg a gellir ei gwblhau o bell neu wyneb yn wyneb.

Dywedodd Lisa Rodrigues, Pennaeth Dysgu ar gyfer Gwaith yn ACT:

“Does dim modd gorbwysleisio pa mor bwysig yw dealltwriaeth rhif sylfaenol, p’un a ydych chi’n pwyso a mesur cynhwysion ar gyfer eich pryd nos neu’n cyllidebu’ch gwariant am y mis, mae cael gafael ar rifedd yn gallu cael effaith enfawr ar fywyd o ddydd i ddydd.

“Gall hefyd helpu o ran darparu cyfleoedd proffesiynol. Gall rhifedd cadarn fod yn allweddol i roi hwb i’ch hyder a’ch rhoi ar flaen y gad yn eich gyrfa a thu hwnt.

“Mantra ACT yw gwella bywydau drwy ddysgu, ac rydym yn falch o allu cynnig cymhwyster y gwyddom y bydd yn gwneud hynny i unigolion ledled Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg.

“Wedi dweud hynny, mae ymrwymiad ACT i wella sgiliau rhifedd nid yn unig yn fuddsoddiad mewn addysg ond yn gam strategol tuag at adeiladu gweithlu mwy medrus a gwydn ar gyfer y dyfodol ledled Cymru.”

Mae astudiaethau’n dangos bod unigolion sydd â sgiliau rhifedd cryf mewn gwell sefyllfa i wneud penderfyniadau gwybodus, datrys problemau, a rheoli adnoddau’n effeithiol – sydd nid yn unig yn hanfodol yn y cartref ond hefyd yn y gweithle. Mae dealltwriaeth rif sylfaenol yn gysylltiedig â chynnydd cyffredinol ym mherfformiad swydd ar draws amrywiol ddiwydiannau sy’n ei wneud yn fuddugoliaeth waeth pa sector y mae dysgwyr yn gobeithio symud ymlaen ynddo.

Er bod Lluosi, a ddarperir gan ACT, ond ar gael i bobl sy’n byw neu’n gweithio yn Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg, ar hyn o bryd, mae cynlluniau i gyflwyno’r rhaglen i rannau eraill o Dde Cymru yn y dyfodol agos.

Darganfyddwch fwy am raglen Lluosi yma.

Rhannwch