Fe wnaethom lansio 7 cymhwyster newydd eleni – dyma pam y dylech eu cynnwys yn eich cyllideb hyfforddi ar gyfer 2026.
Mae dysgu seiliedig ar waith yn tyfu’n gyflym ledled Cymru, gan helpu busnesau a gweithwyr i gael mynediad at hyfforddiant o ansawdd uchel sydd wedi’i ariannu’n llawn ac sy’n sbarduno dilyniant gyrfa, cynhyrchiant a thwf economaidd hirdymor.
Yn ALS, ein cenhadaeth yw darparu cymwysterau ymarferol ac effeithiol i fusnesau o bob maint, gan roi sgiliau y mae galw amdanynt i weithluoedd, mynd i’r afael â phrinder sgiliau a chefnogi twf economaidd yng Nghymru.
Mewn ymateb i alw gan gyflogwyr ac anghenion newydd y diwydiant, rydym wedi cyflwyno saith cymhwyster newydd sydd wedi’u cynllunio i helpu sefydliadau i baratoi eu timau ar gyfer y dyfodol a gwneud y mwyaf o’u buddsoddiad mewn hyfforddiant.
Hanfodion AI a Sylfeini AI
Gyda Chymru’n ennill dau barth twf AI newydd a nifer o ganolfannau data arfaethedig, mae ein gwlad yn prysur ddod yn ganolfan ar gyfer arloesi digidol. Mae hyn yn cynnig cyfle unigryw i fusnesau yng Nghymru arwain y ffordd wrth fabwysiadu technolegau AI newydd.
Mae ein rhaglenni sydd wedi’u hachredu gan BCS yn darparu hyfforddiant sylfaenol hygyrch i bob aelod o staff ar draws pob rôl, gan gyflwyno cysyniadau AI craidd a hyrwyddo defnydd diogel a moesegol o dechnolegau newydd. Mae hyn yn helpu i ddiogelu eich busnes, gwella cynhyrchiant a pharatoi timau ar gyfer y dyfodol digidol.
Dewch o hyd i ragor o fanylion am ein cyrsiau Hanfodion AI a Sylfeini AI.
Dadansoddwr Data Lefel 3
Yn dilyn galw cryf am ein prentisiaeth Dadansoddwr Data Lefel 4, gwnaethom lansio’r cymhwyster Dadansoddwr Data Lefel 3 er mwyn sicrhau bod sgiliau data ar gael i’r gweithlu ehangach.
Mae deall sut i gasglu, dadansoddi a dehongli data bellach yn hanfodol i bob busnes modern. Mae’r rhaglen hon yn rhoi sgiliau ymarferol i weithwyr er mwyn gwneud penderfyniadau gwybodus a sbarduno llwyddiant masnachol.
Dewch o hyd i ragor o fanylion am ein cyrsiau Dadansoddwr Data Lefel 3.
Cydymffurfiaeth Reoleiddiol Lefel 4
Wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn rolau gweithredol sy’n canolbwyntio ar gydymffurfiaeth, mae’r cymhwyster hwn yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i reoli cyfrifoldebau rheoleiddiol yn effeithiol. Byddwch yn archwilio pynciau hanfodol sy’n cynnwys gweinyddiaeth strategol, effeithiolrwydd arweinyddiaeth, fframweithiau cyfreithiol a chydlynu prosiectau, gan alluogi staff i gryfhau llywodraethu, lleihau risg a chefnogi gweithrediadau sefydliadol.
Dewch o hyd i ragor o fanylion am ein cyrsiau Cydymffurfiaeth Reoleiddiol Lefel 4.
Rheolwr Cynnyrch Digidol
Mewn ymateb i’r angen cynyddol am lwybrau hyfforddi strwythuredig i weithwyr proffesiynol ym maes cyflwyno digidol, gwnaethom lansio Rheolwr Cynnyrch Digidol Lefel 4.
Yn ddelfrydol i unigolion sy’n arwain neu’n cefnogi cynhyrchion a gwasanaethau digidol, mae’r rhaglen hon yn datblygu sgiliau mewn dylunio cynnyrch, profiad defnyddiwr, ymgysylltu â rhanddeiliaid a chyflwyno ystwyth, gan alluogi dysgwyr i sbarduno trawsnewid digidol llwyddiannus ac effeithlonrwydd gweithredol.
Dewch o hyd i ragor o fanylion am ein cyrsiau Rheolwr Cynnyrch Digidol.
Caffael a Chyflenwi CIPS Lefel 3 a 4
Wrth ehangu ein portffolio o raglenni sefydliadau siartredig, rydym yn falch o gynnig cymwysterau sydd wedi’u hachredu gan CIPS ar Lefelau 3 a 4, ochr yn ochr â’n llwybrau CIPD a CII sydd eisoes wedi’u hen sefydlu.
Mae’r cyrsiau hyn yn datblygu gwybodaeth hanfodol am rôl caffael o fewn cadwyni cyflenwi a sefydliadau, gan gryfhau dealltwriaeth o arferion caffael moesegol, cynaliadwy ac effeithiol. Mae dysgwyr yn ennill cymwysterau proffesiynol cydnabyddedig sy’n cefnogi dilyniant gyrfa ac arfer gorau sefydliadol.
Dewch o hyd i ragor o fanylion am ein cyrsiau Caffael a Chyflenwi CIPS Lefel 3 a 4.
Mae pob rhaglen wedi’i hariannu’n llawn, gan gynnig datblygiad gwerth uchel heb rwystrau ariannol. Drwy gynnwys y cymwysterau hyn yn eich cyllideb hyfforddi ar gyfer 2026, gallwch feithrin galluoedd sy’n canolbwyntio ar y dyfodol, cadw talent a pharhau’n gystadleuol mewn economi sy’n newid.