16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Yn ACT rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd diogel, cynhwysol a chefnogol lle mae pob dysgwr a disgybl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a’u grymuso i gyrraedd eu potensial llawn. Rydym yn cydnabod mai dysgwyr a disgyblion iach a hapus sydd yn y sefyllfa orau i lwyddo yn alwedigaethol, yn gymdeithasol ac yn bersonol, a mynd ymlaen i allu cynnal lles cytbwys yn y dyfodol. Felly, mae lles yn ganolog i bopeth a wnawn yn ACT.

Rhaglen Cymorth i Ddysgwyr
Mae gan bob un o’n dysgwyr fynediad am ddim i’n ap lles. Mae’n hawdd lawrlwytho a chael mynediad at adnoddau lles, cyngor, olrheinwyr a chymorth sgwrsio byw. Mae’n cynnwys llinell gymorth 24/7 lle gall dysgwyr gael mynediad at gyngor cyfreithiol, cyngor ariannol a chwnsela sy’n canolbwyntio ar atebion.

Tîm Diogelu
Mae gan ACT dîm diogelu caredig a diwyd sy’n gweithio’n broffesiynol gydag unrhyw bryderon a godir gan ddysgwyr, staff neu ofalwyr.

Hyfforddwyr Dysgu a Chydlynwyr Lles
Mae ein timau lles ymroddedig yn darparu cymorth emosiynol, darpariaethau lles ymarferol a chymorth dysgu sy’n canolbwyntio ar y person.

Llais y Dysgwr
Rydym yn angerddol am helpu ein dysgwyr i deimlo eu bod yn cael eu clywed. Mae gwelliant ein gwasanaethau yn dibynnu ar eu hadborth parhaus, felly rydym yn gweithio’n galed ar gydweithio â dysgwyr i wneud ACT yn lle gwell.

Eisiau gwybod mwy?

Cysylltwch â ni