16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Cynadledda a llogi ystafelloedd yn ACT

P’un a ydych yn cynnal digwyddiad mewnol neu allanol, gall yr amgylchedd lle cynhelir y digwyddiad fod yn rhan hanfodol o sicrhau ei lwyddiant. Wedi’i leoli dim ond 15 munud ar droed o orsaf Queen Street, mae ein canolfan hyfforddi a chynadledda sydd newydd ei hadnewyddu yng nghanol Caerdydd. Gall ein hystafell gynadledda groesawu hyd at 100 o bobl mewn un ystafell, ac mae’n lle perffaith i gynnal eich cynhadledd neu gyfarfod busnes nesaf. Fodd bynnag, os hoffech rywbeth ychydig yn wahanol, mae gennym hefyd ystod wych o fannau amgen ar gael. Gyda safleoedd ledled De Cymru, gallwn drefnu ein hystafelloedd i weddu i bob math o achlysur busnes.