ALS yn derbyn canmoliaeth yn dilyn arolygiad diweddaraf Ofsted
Mae ALS Training, sy’n is-gwmni i ACT ac yn rhan o Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro, wedi derbyn adroddiad cadarnhaol gan Ofsted yn dilyn arolygiad llwyddiannus o’i raglen Brentisiaethau Awyrofod.
Cyfarfu’r arolygwyr â phrentisiaid, staff cyflwyno ac uwch-arweinwyr i werthuso ansawdd ac effaith y ddarpariaeth hyfforddiant seiliedig ar waith. Mae’r adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, yn amlygu perfformiad cryf ar draws nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys arweinyddiaeth a rheolaeth, cyflawniad dysgwyr, cynllunio’r cwricwlwm a safonau addysgu.
Canmolodd Ofsted ddiwylliant cynhwysol a chefnogol ALS, gan nodi bod lles, diogelwch a datblygiad proffesiynol prentisiaid wrth wraidd dull y sefydliad. Disgrifiwyd y dysgwyr fel unigolion hyderus sy’n dangos lefelau uchel o ymgysylltiad â’u dysgu a dealltwriaeth gadarn o ddisgwyliadau’r diwydiant.
Rhoddwyd canmoliaeth benodol i’r arweinyddiaeth am ei gwybodaeth fanwl am y ddarpariaeth a’i hymatebolrwydd i adborth cyflogwyr, gan sicrhau bod y rhaglen yn cyd-fynd ag anghenion y sector a’r prentisiaid. Canmolwyd y tiwtoriaid a’r staff cyflwyno hefyd am eu hymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol. Mae aseswyr yn ymgymryd â hyfforddiant rheolaidd sy’n benodol i’r diwydiant er mwyn cynnal y safonau uchel sy’n ofynnol yn y diwydiant awyrofod hynod reoledig.
Disgrifiwyd y cwricwlwm a’r dulliau addysgu fel rhai uchelgeisiol sy’n edrych tua’r dyfodol, gyda ffocws clir ar ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dyfodol y diwydiant awyrofod. Mae prentisiaid yn elwa ar addysgu arbenigol sy’n rhannu cysyniadau technegol cymhleth yn ddysgu clir a hygyrch.
Mae prentisiaid yn gwneud cynnydd rhagorol ar y rhaglen, gyda’r gyfradd gyflawni a’r gyfradd basio prentisiaethau yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Amlygodd Ofsted y berthynas unigryw rhwng y darparwr hyfforddiant, y cyflogwr a’r dysgwr, gan ei disgrifio fel un o gryfderau allweddol y rhaglen.
Un elfen arbennig o amlwg yn yr adroddiad oedd y ffocws ar gymorth i ddysgwyr a chynhwysiant. Mae ALS Training yn darparu ystod o wasanaethau cymorth bugeiliol, gan gynnwys mynediad at linell gymorth 24 awr sy’n cael ei staffio gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, cymorth gyda chostau teithio, a chefnogaeth wedi’i theilwra i helpu prentisiaid i lwyddo yn academaidd ac yn bersonol.
Wrth wneud sylwadau ar ganlyniad yr arolygiad, dywedodd Sarah John, Cyfarwyddwr ALS Training:
“Mae hwn yn ganlyniad rhagorol ac yn glod mawr i’n prentisiaid, ein staff a’n partneriaid cyflogwyr. Rydym yn hynod falch o’r amgylchedd dysgu cynhwysol a chefnogol rydym wedi’i greu, ac mae’r adroddiad yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion dysgwyr a gofynion y diwydiant awyrofod.”
Ar hyn o bryd, mae ALS Training yn darparu ystod o brentisiaethau ar draws y sectorau digidol, ariannol a gwasanaethau proffesiynol, ac yn gweithio mewn partneriaeth ag ACT i ddarparu cymwysterau hyfforddi o ansawdd uchel y mae galw mawr amdanynt.
Darllenwch yr adroddiad llawn