Mae angerdd dros ddysgu wedi trawsnewid Laura Chapman o fod yn ei harddegau swil i fod yn arweinydd tîm hyderus gyda MotoNovo Finance yng Nghaerdydd.
Ymunodd y ferch 21 oed, a oedd gynt yn ddisgybl yn Ysgol Maesteg, â’r cwmni cyllid ceir a benthyciadau ar gontract cyfnod penodol o 18 mis pan oedd yn 17 oed, ar ôl dewis ennill cyflog a dysgu drwy brentisiaeth.
Symudodd ymlaen yn gyflym o Ddiploma BTEC Lefel 2 mewn Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol TG i Brentisiaeth mewn TG, Meddalwedd, y We a Thelathrebu, Tystysgrif ITIL Fersiwn 4, ac mae bellach yn cwblhau ILM Lefel 3 mewn Rheolaeth gydag ALS Training.
Bellach, mae Laura wedi cyrraedd rhestr fer fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 fel ymgeisydd terfynol yng nghategori Prentis y Flwyddyn.
Fel un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, darparwyr dysgu seiliedig ar waith ac ymarferwyr, trefnir y gwobrau gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). EAL yw’r prif noddwr.
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd, ar 22 Mawrth 2024. Mae’r gwobrau’n amlygu cyflawniadau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.
“Gyda phob cymhwyster, rwyf wedi gallu cymhwyso’r hyn rwyf wedi’i ddysgu’n uniongyrchol i’m rôl ar unwaith,” esboniodd Laura. “Maent yn mynd law yn llaw, felly mae’n gwneud synnwyr i barhau i ddysgu. Rwyf eisoes wedi gosod fy ngolygon ar Brentisiaeth Uwch mewn Rheolaeth!”
Mae’r wybodaeth a’r sgiliau y mae wedi’u hennill wedi rhoi mwy o hyder iddi arwain tîm o wyth dadansoddwr, datrys problemau TG i fwy o gwsmeriaid a chael effaith gadarnhaol ar y busnes.
Yn fuan ar ôl cael ei dyrchafu’n arweinydd tîm, lleihaodd ôl-groniad yn sylweddol drwy gyflwyno dangosfwrdd i flaenoriaethu gwaith a oedd yn dod i mewn. Mae hefyd wedi cyflwyno camau i wella morâl a pherfformiad staff ac wedi cynyddu cynhyrchiant 50% drwy annog aelodau’r tîm i gydweithio a chynhyrchu syniadau.
Mae Laura hefyd yn gweithio gyda staff datblygu talent y cwmni ac ALS Training i hyrwyddo prentisiaethau i’w thîm.
“Rwy’n rhannu fy stori gyda’m tîm ac yn dweud wrthynt pa mor ddefnyddiol yw prentisiaethau,” meddai. “Maent yn ffordd wirioneddol dda o ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch gyrfa.”
Disgrifiodd Francesca Webster, ymgynghorydd gyrfaoedd cynnar MotoNovo Finance, daith lwyddiannus Laura fel un “anhygoel”.
“Mae Laura wedi cwblhau tri chymhwyster proffesiynol, yn astudio ei phedwerydd ac wedi cael ei dyrchafu dair gwaith. Bellach mae’n rheoli tîm o wyth dadansoddwr desg gwasanaeth TG, a hynny i gyd mewn llai na phedair blynedd!” meddai. “Ni allwn aros i weld beth fydd Laura yn ei gyflawni nesaf.”
Llongyfarchodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Laura a’r holl ymgeiswyr terfynol eraill. “Arbenigwyr yfory fydd prentisiaid heddiw, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn ein galluogi i gydnabod prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a chyflogwyr sydd wedi gwneud mwy na’r disgwyl. Mae eu dycnwch, eu hangerdd a’u hymrwymiad i ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain, gyrfaoedd pobl eraill ac economi ehangach Cymru yn ysbrydoledig. Dymunaf bob lwc i bob un o’r ymgeiswyr terfynol yn y gwobrau ac yn eu hymdrechion yn y dyfodol.”
Wrth longyfarch yr ymgeiswyr terfynol, dywedodd Al Parkes, rheolwr gyfarwyddwr EAL: “Fel y sefydliad dyfarnu arbenigol a’r partner sgiliau ar gyfer y diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni.
“Mae prentisiaethau’n chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cynnydd personol drwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o gyflawniad, gan sicrhau ar yr un pryd fod gan gyflogwyr y sgiliau cywir ar yr adeg gywir i gadw i fyny ag anghenion newidiol y diwydiant. Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gyflogi prentisiaid. Mae cydnabod cyflawniadau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hanfodol i hyn.”
Am ragor o wybodaeth am recriwtio prentis, ewch i: https://gov.wales/apprenticeships-genius-decision neu ffoniwch 03000 603000.