Cynhaliodd ALS ei Sesiwn Rwydweithio gyntaf erioed i Ddysgwyr Adnoddau Dynol CIPD, digwyddiad allweddol i’n dysgwyr ac i’n tîm Gwasanaethau Proffesiynol.
Gyda 170 o ddysgwyr prentisiaeth Adnoddau Dynol wrthi’n cwblhau eu cymwysterau CIPD Lefel 3 neu Lefel 5, mae Adnoddau Dynol yn un o’r llwybrau prentisiaeth mwyaf ac sy’n tyfu gyflymaf yn ALS. Gan gydnabod pwysigrwydd cysylltiadau yn y proffesiwn pobl, aeth y tîm ati i greu digwyddiad a fyddai’n dod â dysgwyr ynghyd i rannu profiadau a safbwyntiau.
Cynhaliwyd y sesiwn mewn partneriaeth â CIPD Cymru, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad ar y cyd i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes Adnoddau Dynol.
Agorodd Nicky Hope o CIPD Cymru y digwyddiad gyda chyflwyniad diddorol ar y dirwedd Adnoddau Dynol yng Nghymru a gwerth aelodaeth CIPD. Mae pob dysgwr CIPD yn ALS yn cael dwy flynedd o aelodaeth wedi’i hariannu’n llawn ar ddechrau ei gwrs, ac anogodd Nicky bawb i fanteisio i’r eithaf ar hyn.
“Defnyddiwch yr adnoddau, ewch i ddigwyddiadau rhwydweithio ac ehangwch eich rhwydwaith,” cynghorodd, gan amlygu’r amrywiaeth eang o offer gyrfa a chysylltiadau proffesiynol sydd ar gael drwy wefan CIPD.
Nesaf, daeth Nick Carter o Carter People Development ymlaen i siarad am bwysigrwydd datblygiad proffesiynol parhaus (DPP). Gan dynnu ar ei yrfa amrywiol, sy’n cynnwys yr Awyrlu Brenhinol, Cwm Taf Morgannwg, a phrofiad fel arweinydd rhaglen ac aseswr i CIPD a Choleg Caerdydd a’r Fro, rhannodd Nick sut mae dysgu parhaus wedi llywio ei daith broffesiynol.
“Gwnewch gwrs hir ffurfiol bob tair blynedd,” anogodd. “A gwnewch rywbeth bob blwyddyn.”
Boed yn hyfforddiant gwytnwch, sgiliau cyfathrebu neu rywbeth cwbl newydd, mae’r cyfan yn ychwanegu gwerth a safbwynt at eich gyrfa.
Daeth y bore i ben gydag ymddangosiad gan Lesley Richards o CIPD Cymru, a bu ei thrafodaeth ar orflinder ym maes Adnoddau Dynol a chydbwysedd proffesiynol yn atgof pwysig i’r rhai sy’n gweithio mewn rolau sy’n canolbwyntio ar bobl. Roedd ei neges am osod ffiniau a chynnal lles yn taro tant yn gryf gyda’r rhai a oedd yn bresennol.
Mae’r digwyddiad rhwydweithio cyntaf hwn yn nodi dechrau’r hyn rydym yn gobeithio y bydd yn dod yn gyfle rheolaidd i ddysgwyr gysylltu â’i gilydd ac â gweithwyr proffesiynol ar draws y diwydiant.