Kiera yn goresgyn pob rhwystr i gyflawni prentisiaeth er mwyn helpu cleifion
Mae’r technegydd fferyllfa Kiera Dwyer wedi dangos penderfyniad, ymroddiad ac ymrwymiad wrth ennill cyfres o gymwysterau i gefnogi’r fferyllfa gymunedol lle mae’n gweithio yn Abercynon.
Mae Kiera, 24 oed, o Rydyfelin, Pontypridd, sydd â syndrom Asperger a Syndrom Irlen, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel straen gweledol, wedi ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol er mwyn rhoi mwy o amser i fferyllwyr yn Sheppards Pharmacy, sy’n rhan o grŵp Avicenna, ddelio â chleifion rheng flaen. Mae hyn wedi arwain at y fferyllfa’n cael sgôr o hyd at 100% gan gleifion.
Mae wedi cwblhau Prentisiaeth Rhaglen Hyfforddi Technegydd Fferyllfa Cyn Cofrestru, a oedd yn cynnwys Diploma BTEC Lefel 3 mewn Gwyddor Fferyllol drwy’r corff dyfarnu Pearson a chymhwyster City & Guilds Lefel 3 mewn Sgiliau Gwasanaethau Fferyllol.
Cyflwynwyd y brentisiaeth gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) gyda chefnogaeth ALS Training.
I gydnabod ei hymroddiad i ddysgu, mae Kiera wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2022. Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo rithwir ar 10 Tachwedd.
Mae’r gwobrau’n amlygu cyflawniadau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yn ystod cyfnod digynsail.
Fel un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr, darparwyr dysgu seiliedig ar waith ac ymarferwyr, trefnir y gwobrau gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach yw’r prif noddwr am y drydedd flwyddyn.
Er mwyn goresgyn y straen gweledol a achosir gan ddarllen testun ar bapur gwyn, buddsoddodd Kiera mewn pad Pukka Irlen porffor ac ailysgrifennodd ddarnau hanfodol o wybodaeth yr oedd angen iddi eu hadolygu. Roedd hyn yn ei galluogi i roi’r gorau i weithio ar amser rhesymol yn hytrach nag aros i fyny tan 3am.
Dechreuodd ei phrentisiaeth ychydig cyn dechrau’r pandemig a pharhaodd i weithio ar reng flaen y GIG yn y fferyllfa er mwyn sicrhau bod cleifion yn derbyn meddyginiaeth hanfodol.
Yn ogystal ag ymdopi â’r pandemig, bu’n rhaid i Kiera hefyd ddelio â chyfres o ddigwyddiadau teuluol trawmatig, gan gynnwys colli ei thaid annwyl. Er gwaethaf y digwyddiadau hyn, ni fethodd unrhyw ddyddiad cau ar gyfer ei chymwysterau.
“Roeddwn eisiau prentisiaeth er mwyn gallu cymhwyso’r wybodaeth rwy’n ei dysgu, gan gynnwys sut y gall cyflyrau meddygol effeithio ar gleifion a sut mae gwahanol ddosbarthiadau o gyffuriau mewn triniaethau’n gweithio mewn ffyrdd gwahanol,” esboniodd Kiera.
“Fe wnes i oresgyn llawer o rwystrau i gwblhau fy mhrentisiaeth gan fod yr amgylchiadau yn fy erbyn o’r cychwyn cyntaf. Er gwaethaf hyn, llwyddais i gyrraedd yr ochr arall ac nid yn unig cwblhau fy mhrentisiaeth, ond hefyd fy nghymwysterau BTEC a NVQ.”
Dywedodd Rhiannon Burke, rheolwr Sheppards Pharmacy: “Mae Kiera wedi bod yn gefnogaeth gyson yn y fferyllfa drwy leihau’r pwysau ar y fferyllwyr a’u cefnogi gyda’u llwyth gwaith fel prif bwynt atgyfeirio.
“Mae’n haeddu cael ei chydnabod am ei phenderfyniad, ei hymroddiad, ei hymrwymiad a’r lefel uchel o sgil a ddangosodd wrth ennill ei chymhwyster.”
Wrth longyfarch Kiera a’r holl ymgeiswyr terfynol eraill ar y rhestr fer, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae prentisiaethau’n gwneud cyfraniad enfawr i’n heconomi a byddant yn hollbwysig wrth i Gymru barhau i adfer ar ôl y pandemig.
“Gallant helpu i ddiogelu gweithlu ar gyfer y dyfodol, ei ysgogi a’i wneud yn fwy amrywiol, gan gynnig cyfle i bobl ennill sgiliau galwedigaethol o ansawdd uchel.
“Fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed ledled Cymru yn ystod tymor presennol y llywodraeth.
“Rydym am gynyddu cyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella eu bywydau. Bydd y buddsoddiad hefyd yn helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sectorau blaenoriaeth sy’n hanfodol i sbarduno cynhyrchiant a thwf economaidd, gan gefnogi ein huchelgeisiau sero net, yr economi sylfaenol o ddydd i ddydd a gwasanaethau cyhoeddus.”
Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop. Am ragor o wybodaeth am recriwtio prentis, ewch i: https://gov.wales/apprenticeships-genius-decision neu ffoniwch 03000 603000.