Mae Ysabela Dalumpines, peiriannydd darparu gwasanaethau o fewn y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir (SRS) yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, wedi magu mwy o hyder yn ei swydd diolch i brentisiaeth gydag ALS.
Mae Ysabela yn gweithio ar y ddesg gymorth fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr SRS, ac yn ddiweddar mae wedi cwblhau diploma Lefel 4 mewn Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol TG a Thelathrebu.
“Roedd y cwrs a’r unedau ynddo yn berthnasol iawn i’m rôl,” esboniodd Ysabela. “Rwyf wedi ennill sgiliau a gwybodaeth newydd mewn moeseg broffesiynol, ymwybyddiaeth ddeddfwriaethol a datblygiad personol.
“Mae wedi fy helpu i wella fy sgiliau ymgynghori, ac rwy’n gallu cynnig cyngor arbenigol i gwsmeriaid ynghylch eu problemau a’u ceisiadau. Mae hefyd wedi fy helpu i feithrin perthnasoedd cryf â chwsmeriaid a gwella’r broses o ddarparu gwasanaethau drwy gyflwyno awgrymiadau i’m rheolwyr llinell.”
Mae Ysabela yn rhoi clod i’r cymhwyster nid yn unig am ddatblygu ei gyrfa, ond hefyd am feithrin ei thwf personol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, daeth yn gymwys i symud i fyny’r raddfa gyflog, gan gynyddu ei photensial i ennill a hybu ei hyder a’i chynhyrchiant yn y gwaith.
Wrth siarad am ALS fel darparwr prentisiaethau, dywedodd Ysabela: “Fe wnaeth fy aseswr, Gareth Davies, fy nghefnogi bob cam o’r ffordd yn ystod y rhaglen. Unrhyw bryd roeddwn yn ei chael hi’n anodd deall meini prawf yr unedau, neu os oedd gennyf gwestiynau ynghylch casglu tystiolaeth, roedd yn gallu ateb ac egluro popeth. Drwy ei gymorth, roeddwn yn gallu cwblhau’r gwaith cwrs i safon dda.
“Rhoddodd fy nghyflogwr, TCBC – SRS, amser i mi gwblhau fy ngwaith cwrs yn ystod oriau gwaith. Gwnaethant hefyd fy nghefnogi gydag unrhyw ymholiadau ynghylch casglu tystiolaeth, yn ogystal â darparu cyfleoedd i mi gasglu’r dystiolaeth ofynnol o’r gweithle.”
Wrth siarad am ddysgu seiliedig ar waith a’r rhwystrau posibl i uwchsgilio y gallai darpar ddysgwyr eu hwynebu, dywedodd Ysabela: “Rwy’n credu mai’r broblem yw nad oes gan rai sefydliadau’r cymorth priodol ar waith i helpu pobl gyda datblygiad proffesiynol parhaus, neu nad ydynt yn hyrwyddo’r cyfleoedd hyn yn ddigon da i bobl gymryd rhan.”
Er gwaethaf rhai heriau, mae Ysabela yn awyddus i argymell prentisiaeth i eraill, gan ychwanegu: “Bydd yn anodd cydbwyso gweithio a chwblhau cwrs ar yr un pryd, ond mae’r canlyniad yn werth chweil gan y byddwch yn derbyn cymhwyster ar y diwedd, sy’n hynod ddefnyddiol ar gyfer eich twf personol eich hun.
“Fy nghyngor gorau fyddai dewis eich cwrs yn ofalus. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael trafodaeth gyda’ch cyflogwr i weld a allant eich cefnogi, yn enwedig pan fydd angen i chi gasglu tystiolaeth o’r gweithle neu fynychu gwersi wyneb yn wyneb.”