16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/ Astudiaeth achos Datblygiad Proffesiynol

Mae Rhingyll yr Heddlu Bleddyn Jones, sy’n aelod o’r Tîm Plismona Bro yng Nghaerdydd, wedi bod yn rhoi sgil newydd ar brawf er mwyn gwella ymgysylltiad â’r gymuned.

Mae Bleddyn wedi cwblhau cymhwyster Lefel 1 mewn Iaith Arwyddion Prydain yn ddiweddar gyda’r darparwr hyfforddiant ALS. Mae bellach yn dod o hyd i ffyrdd newydd o gysylltu â phobl a allai fel arall ei chael hi’n anodd cael eu clywed.

“Ymgysylltu â’n cymunedau a gallu siarad â phobl yw’r rhan bwysicaf o blismona, mae’n debyg,” esboniodd.

Mae Bleddyn yn rheoli tîm o swyddogion heddlu a swyddogion cymorth cymunedol, gan weithio’n agos gyda thrigolion, ysgolion, busnesau a grwpiau cymunedol i fynd i’r afael â materion lleol. Mae ei rôl yn ymwneud yn bennaf â bod yn weladwy ac yn hawdd mynd ato, rhinweddau sy’n aml yn cael eu herio pan fo rhwystrau cyfathrebu ar waith.

“Ers blynyddoedd, mae BSL wedi bod yn rhywbeth ar fy rhestr o bethau i’w gwneud,” meddai Bleddyn. “Rwy’n cofio fy chwaer yn dysgu BSL pan oeddwn yn blentyn ac roeddwn yn ei chael yn ddiddorol. Mae wastad wedi bod o ddiddordeb i mi, ond roedd cyfuno cwrs â gwaith a bywyd cartref yn ei gwneud yn anodd.”

Newidiodd hynny pan gododd y cyfle i gwblhau cymhwyster BSL fel rhan o’i ddatblygiad proffesiynol drwy ei waith. “Neidiais at y cyfle,” meddai. “Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae colli clyw a byddardod wedi effeithio ar aelodau o’m teulu, felly daeth yr awydd i ddysgu BSL yn bwysicach i mi.”

Ond nid rhesymau personol yn unig oedd y tu ôl i gymhelliant Bleddyn i ddysgu; roedd hefyd yn gweld y manteision proffesiynol. “Bu achlysuron pan nad wyf wedi gallu ymgysylltu â rhywun na siarad â nhw oherwydd rhwystr cyfathrebu,” esboniodd. “Mae’n rhwystredig i’r unigolyn a allai fod eisiau cymorth, ac yn rhwystredig i rywun fel fi sydd am wneud y broses honno mor hawdd â phosibl.”

Roedd ei ymwybyddiaeth o gymuned fyddar Caerdydd hefyd yn rhan fawr o’i benderfyniad. “Mae clwb i bobl fyddar yn fy ardal, a byddai’n wych pe gallem ymgysylltu â nhw, trafod eu pryderon a rhoi’r un mynediad at wasanaethau’r heddlu i’r gymuned fyddar ag sydd gan weddill y ward.”

Wrth siarad am ei daith fel dysgwr, dywedodd Bleddyn: “Fe wnes i fwynhau’r profiad yn fawr. Roeddwn yn gallu gweld fy nghynnydd fy hun o wythnos i wythnos. Roedd ein hyfforddwyr, Sarah a Simon, yn wych ac yno bob amser i’n cefnogi. Roedd cael ein haddysgu mewn tawelwch yn rhyfedd i ddechrau, ond fe wnaeth fy helpu i ganolbwyntio. Rwy’n credu ei fod wedi fy helpu i ddysgu’n well mewn gwirionedd.

“Rydych yn gwneud ffrindiau gyda’r bobl rydych yn arwyddo gyda nhw bob wythnos. Es i ar fy mordaith gyntaf ym mis Chwefror mewn gwirionedd, ac yn bendant cafodd siarad am deithio bob wythnos gyda dysgwr arall ddylanwad ar fy mhenderfyniad i fynd.”

Er bod y sesiynau’n ddwys, neu’n “dipyn o waith blinedig” fel y mae Bleddyn yn ei roi, roedd y cynnydd yn gyflym. “Rydych yn defnyddio eich dwylo, eich breichiau a mynegiant eich wyneb mewn ffordd nad ydych wedi’i gwneud o’r blaen. Ond roedd yn brofiad mor bleserus.”

Nawr bod Bleddyn wedi cwblhau ei gwrs Lefel 1, mae’n defnyddio ei sgiliau yn y gwaith. “Bu ambell enghraifft lle rydym wedi curo ar ddrysau a siarad â phobl drwy arwyddo,” meddai. “Mae hynny mor bwysig i’n rôl, ac mae’n rhaid ei bod yn braf iawn i’n cymuned fyddar leol deimlo eu bod yn gallu ymgysylltu â ni drwy BSL.”

Y tu hwnt i gyfathrebu uniongyrchol, dywed Bleddyn fod BSL hefyd wedi newid y ffordd y mae’n ystyried hygyrchedd.

Esboniodd: “Mae wedi agor fy llygaid i ba mor unig y gall rhywun [sy’n fyddar] deimlo mewn byd sy’n cyfathrebu drwy’r gair llafar. Gall pobl fyddar neu drwm eu clyw deimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu a’u heithrio.”

Sylweddolodd hefyd pa mor fynegiannol a chyfoethog yw’r iaith. “Mae’n eithaf disgrifiadol yn y ffordd y mae’n egluro pethau,” meddai. “Ac fel swyddog heddlu, mae hynny’n ddefnyddiol iawn wrth gymryd datganiadau. Mae cynnwys ystumiau a siapiau dwylo wrth gymryd datganiadau yn gwella ansawdd y dystiolaeth ac yn rhoi mwy o gyfoeth a lliw iddi.”

Yn dilyn ei gymhwyster, mae Bleddyn yn parhau i ymarfer yr iaith ac yn gobeithio gweithio’n agosach gyda grwpiau lleol i bobl fyddar. Mae hefyd yn gweld potensial ymhlith ei gydweithwyr. “Mae tri ohonom wedi dysgu BSL hyd yma, ac rwy’n siŵr y bydd mwy yn dilyn. Mae ambell aelod o’r tîm eisoes wedi dangos diddordeb.”

Wrth siarad am bwysigrwydd dysgu’r sgil, dywedodd Bleddyn: “Mae gallu cyfarch rhywun yn unig yn beth mor syml, ond mae’n dangos parch a pharodrwydd i ymgysylltu.

“Mae llawer o bobl yn dweud y byddent wrth eu bodd yn dysgu iaith arall, ac rwyf newydd wneud hynny. Mae’n ffordd wych o herio eich hun, ysgogi eich meddwl a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r ffordd rydych yn gwasanaethu eich cymuned.”

Os hoffech ddysgu mwy am BSL, gallwch ddod o hyd i fanylion am y cwrs yma.

 

 

Rhannwch