Mae darparwr hyfforddiant mwyaf Cymru, ACT, wedi uno â’i chwaer sefydliad, ALS, i ddod yn un sefydliad o dan frand ACT. Bydd y symudiad yn cryfhau cymorth a darpariaeth i gyflogwyr, dysgwyr a chymunedau ledled Cymru.
Mae’r uno yn nodi’r bennod nesaf, gan adeiladu ar dros 20 mlynedd o gydweithio rhwng y ddau sefydliad. Trwy gyfuno eu harbenigedd, bydd ACT yn cynnig ystod ehangach o wasanaethau i gyflogwyr sy’n cwmpasu cyflogadwyedd, sgiliau a datblygu’r gweithlu.
Dywedodd Richard Spear, Rheolwr Gyfarwyddwr ACT, fod y penderfyniad wedi’i yrru gan angerdd a rennir i ddarparu dysgu o ansawdd uchel ac i sicrhau bod y sefydliad yn parhau i fod yn gryf yn y dyfodol.
“Roedden ni’n gwybod o’n gwaith agos iawn gydag ALS eu bod yn rhannu ein gwerthoedd. Maen nhw bron yn adlewyrchiad o ACT mewn sawl ffordd,” meddai. “Mae gan y ddau sefydliad angerdd llwyr i ddarparu’r gwasanaethau o’r ansawdd gorau i ddysgwyr a chyflogwyr. Ein prif ffocws bob amser yw ansawdd a phobl.
“Yr her fwyaf rydyn ni’n ei wynebu ar hyn o bryd yw ansicrwydd oherwydd newidiadau allanol. Meddylion ni, gad i ni fynd o flaen hynny, uno’r sefydliadau nawr a byddwn mewn sefyllfa gwell i rannu arfer gorau, cryfhau’r sefydliad a bod yn barod ar gyfer y dyfodol.”
Wedi’i sefydlu 25 mlynedd yn ôl, adeiladodd ALS ei enw da ar ddarparu datrysiadau dysgu pwrpasol mewn partneriaeth â chyflogwyr yn hytrach na chymryd darparu ynyr un ffordd i bawb.
Esboniodd Helena Williams, Cyfarwyddwr ALS a bellach Cyfarwyddwr Recriwtio Dysgwyr ac Ymgysylltu â Chyflogwyr yn ACT:
“Roedd yn ymwneud yn fawr â darparu dysgu mewn partneriaeth â sefydliadau sy’n darparu atebion pwrpasol sy’n arwain at fanteision sylweddol – mae’n gwneud hyfforddiant gyda nhw.”
Disgrifiodd Helena yr uno fel ‘y cam naturiol nesaf’.
“Roedd yn teimlo’n iawn,” meddai. “Roedden ni’n gallu gweld nad oedd bod ar wahân o fudd i’n cleientiaid mwyach. Mae dod â’r holl arbenigedd at ei gilydd yn golygu gallwn ddarparu gwasanaeth cydgysylltiedig llawer gwell i’n cyflogwyr a’n dysgwyr.”
Dywedodd Sarah John, Cyfarwyddwr ALS a bellach Cyfarwyddwr Strategaeth a Thrawsnewid ACT, fod yr uno yn creu cyfleoedd newydd tra’n cadw’r gwerthoedd sydd wedi bod yn sail i ALS am y chwarter canrif diwethaf.
“Rydyn ni’n ei weld fel cyfle gwych i ddod â’r holl dalent sydd gennym ar draws y ddau sefydliad ynghyd a sianelu hynny’n fwy strategol i’n darpariaeth, gan gynnwys deall sut gallwn adeiladu darpariaeth i ymateb i’r datblygiadau digidol sy’n dod i’r amlwg yn y gweithle,” meddai.
Er y gall hyn ymddangos fel newid mawr i’r sefydliadau, bydd dysgwyr presennol a phartneriaid cyflogwyr yn parhau i weithio gyda’r un timau, gyda thrawsnewidiad graddol wedi’i gynllunio i leihau aflonyddwch.
Wrth edrych ymlaen, dywedodd Richard: “Mae gennym llwyth o dalent ar draws y sefydliad. Dod â hynny at ei gilydd, defnyddio technoleg newydd a pharhau i wella bywydau trwy ddysgu – ar ddiwedd y dydd, dyna beth rydyn ni’n ei wneud.”