Mae wedi bod yn gwpl o flynyddoedd prysur i Maddy Groves, prentis sydd nid yn unig yn gweithio’n llawn amser wrth astudio ar gyfer ei chymwysterau AAT ond hefyd yn helpu gyda’r busnes teuluol ac, nawr, yn cystadlu mewn cystadleuaeth sgiliau.
Ar ôl ennill gwobr efydd yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru y llynedd, mae Maddy bellach yn paratoi i fynd i’r afael â Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills, lle bydd unwaith eto yn cael cyfle i arddangos ei sgiliau cyfrifeg ar lwyfan cenedlaethol.
Wrth siarad am y gystadleuaeth, dywedodd Maddy: “Mae’n teimlo’n fwy cyffrous ac yn llai brawychus o’i gymharu â’r llynedd. Nawr fy mod i’n gwybod beth i’w ddisgwyl, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gystadlu ac arddangos fy sgiliau gwell ar lwyfan cenedlaethol. Mae cael ail gyfle yn ysgogiad mawr i geisio fy ngorau.”
Profodd ei medal efydd yng nghystadleuaeth Cymru i fod yn brofiad dysgu pwysig, gan ei helpu i gydnabod ei gallu tra’n caniatáu iddi chwilio am ffyrdd o wella.
“Mae ennill efydd wedi gwneud i mi sylweddoli y dylwn roi’r gorau i amau fy hun ond peidio ag esgeuluso cyfleoedd i fireinio,” meddai. “Wrth baratoi ar gyfer y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol, rwyf wedi astudio’r briff ac wedi gwneud yn siŵr o adolygu’r holl dechnegau perthnasol yn drylwyr er mwyn roi blaen i mi.”
I’r rhai sydd ddim yn gyfarwydd â WorldSkills, mae’r gystadleuaeth yn herio cystadleuwyr i gymhwyso eu gwybodaeth dechnegol i senarios realistig yn y gweithle. Ar gyfer tasgau cyfrifyddiaeth, cyflwynir astudiaeth achos busnes i gystadleuwyr, gofynnir iddynt nodi a mynd i’r afael ag amrywiaeth o broblemau, ac yna rhoi cyflwyniad yn amlinellu eu datrysiadau i banel ffug o gyfarwyddwyr busnes.
Gall yr heriau gynnwys paratoi cyllidebau gan ddefnyddio technegau cyfrifyddiaeth rheoli a chymhwyso moeseg busnes wrth ystyried mentrau posibl.
“Dydy e ddim am ffeithiau a’r ffigurau yn unig,” esboniodd Maddy. “Mae angen sgiliau rheoli amser a chyflwyno arbennig, yn ogystal â sylw at fanylion.”
Mae Maddy wedi cwblhau ei chymwysterau AAT yn ddiweddar yn dilyn mwy na thair blynedd o waith. Mae’r gystadleuaeth yn gyfle arall iddi roi’r wybodaeth y mae hi wedi’i ddysgu trwy ei hastudiaethau a’i phrofiad yn y gweithle ar waith.
“Mae cwblhau cymhwyster AAT yn teimlo mor werth chweil. Rwy’n falch iawn o’r dyfalbarhad a gymerodd i barhau i symud ymlaen, hyd yn oed pan aeth hi’n anodd cydbwyso gwaith, ochr yn ochr â phopeth arall.”
Er nad yw rheoli popeth bob amser wedi bod yn syml, mae’r profiad o ddysgu seiliedig ar waith wedi dysgu gwersi gwerthfawr iddi am drefniadaeth, blaenoriaethu a gwytnwch.
“Dydw i ddim yn mynd i esgus ei fod yn hawdd – roedd yn waith caled iawn i gadw ar ben popeth,” meddai. “Rwy’n credu mai’r help mwyaf oedd aros yn drefnus, a chadw meddwl clir, gan fy ngalluogi i osod fy mlaenoriaethau a pharhau i fynd.
“Roedd amseroedd pan oedd arholiadau yn cyd-daro â chyfnodau prysur yn y gwaith yn arbennig o heriol, lle roeddwn i wir yn teimlo dan straen. Er bod cadw’r pethau hyn ar wahân yn fy meddwl yn helpu. Weithiau roedd yn rhaid i mi ddiffodd fy ymennydd gwaith, cau fy negeseuon e-bost, a chanolbwyntio ar astudio.
“Er gwaethaf yr heriau, rwy’n falch fy mod wedi cwblhau fy nghymhwyster fel hyn, mae wedi dysgu i mi faint y gellir ei gyflawni trwy wydnwch a phenderfyniad.
“Byddwn i’n dweud bod astudio AAT wedi rhoi’r wybodaeth i mi, ond mae gweithio yn ymarferol wedi dangos i mi sut i gymhwyso’r wybodaeth honno yn y byd go iawn. Mae fy swydd wedi helpu i wella fy sgiliau cyfathrebu, addasu a datrys problemau wrth weithio gyda chleientiaid go iawn. Pethau na allwch, yn anffodus, eu dysgu o werslyfrau yn unig.”
Ochr yn ochr â’r wybodaeth dechnegol a’r profiad yn y gweithle, dywed Maddy fod yr anogaeth a gafodd gan ACT wedi ei helpu i wneud y gorau o gyfleoedd na fyddai fel arall wedi’u hystyried.
“Mae ACT wedi rhoi eu cefnogaeth lawn i mi ym mhopeth rydw i wedi cymryd rhan ynddo, p’un a ydw i neu nhw wedi rhoi fy hun ymlaen. Roedd fy holl diwtoriaid wir yn credu ynof fi ac yn fy annog i herio fy hun trwy’r cystadlaethau hyn a chyfleoedd eraill.
“O ganlyniad i’w cefnogaeth, mae fy hyder wedi tyfu gan- waith, ac rydw i wedi datblygu sgiliau sy’n mynd llawer ymhellach nag astudio yn unig.”