Ynglŷn â’r cwrs hwn:
Mae ein Diploma Gweinyddu Busnes Lefel 3 wedi’i gynllunio ar gyfer pobl sydd am weithio mewn rolau cefnogaeth gweinyddol mewn sefydliadau yn y sector cyhoeddus neu’r sector breifat, neu sydd am wella eu sgiliau gweinyddol a goruchwyliol.
Cefnogir dysgwyr drwy eu cymhwyster, gan arddangos sgiliau busnes a gweinyddu, trin cwsmeriaid, sgiliau technegol ac ymarferol, cyfathrebu ar lafar a sgiliau TG.
Mae’r Brentisiaeth hon ar gyfer dysgwyr sydd am weithio mewn rolau cefnogaeth gweinyddol mewn sefydliadau sector cyhoeddus neu breifat, neu sydd am wella eu sgiliau gweinyddol a goruchwyliol.
Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).
- Cyfathrebu mewn Amgylchedd Busnes
- Rheoli Datblygiad Personol a Phroffesiynol
- Egwyddorion Gweinyddiaeth
- Egwyddorion Cyfathrebu a Gwybodaeth Busnes
- Egwyddorion Busnes
Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.
Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.
Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams), yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.
Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster. Gall dysgwyr llwyddiannus symud ymlaen at Brentisiaeth Gweinyddu Busnes Lefel 4.
Mae cyfleoedd cyflogaeth pellach yn cynnwys:
- Ysgrifennydd
- Derbynnydd
- Gweinyddwr
- Cynorthwyydd personol
- Arweinydd tîm
- Goruchwyliwr swyddfa
- Rheolwr
Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:
- yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
- yn byw yng Nghymru
- ddim mewn addysg llawn amser
- ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
- Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma.
Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:
- fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
- gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
- ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
- gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
- cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru