Ynglŷn â’r cwrs hwn
Mae ein Prentisiaeth Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes Lefel 3 yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau cyfryngau digidol amrywiol y gellir eu trosglwyddo ar draws sawl sector, gan gefnogi amrywiaeth o fusnesau i greu brand ar-lein. Bydd yn arfogi dysgwyr â’r wybodaeth, sgiliau a’r cymhwysedd i gefnogi systemau, prosesau a gwasanaethau busnes trwy’r cyfryngau cymdeithasol fel y gallant gyfrannu at wneud busnesau’n fwy effeithlon a chynhyrchiol.
Mae’r Brentisiaeth hon ar gyfer dysgwyr sydd am ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth am arferion y Cyfryngau Cymdeithasol.
Mae dysgwyr yn amrywio o berchnogion busnesau bach i ganolig sy’n dymuno gweithio ar eu brandio ar-lein trwy greu gwefannau a marchnata cyfryngau cymdeithasol, i fusnesau mwy sy’n cefnogi aelod newydd o’r tîm marchnata/cyfryngau sydd angen datblygu eu gwybodaeth Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes.
Bydd gofyn i ddysgwyr gwblhau cymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).
Unedau Gorfodol
- Egwyddorion Cyfryngau Cymdeithasol mewn Busnes
- Egwyddorion Allweddeiriau ac Optimeiddiaeth
- Rheoli Rhwydweithio Cymdeithasol ar gyfer Busnes
- Defnyddio technolegau cydweithredol
Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.
Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.
Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.
Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster.
Mae cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol yn cynnwys:
- Perchennog Busnesau Bach i Ganolig sydd angen sgiliau i greu presenoldeb busnes ar-lein
- Cynorthwyydd Cyfryngau Cymdeithasol
- Ymgynghorydd Cyfryngau Cymdeithasol
- Dadansoddwr Cyfryngau Cymdeithasol
- Cynorthwyydd Cyfrifon Digidol
- Cynorthwyydd Marchnata Digidol
- Swyddog Cyfathrebu Digidol
- Swyddog Ymgysylltu Cymunedol
Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:
- yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
- yn byw yng Nghymru
- ddim mewn addysg llawn amser
- ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
- Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma
Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:
- fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
- gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
- ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
- gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
- cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru