Ynglŷn â’r cwrs hwn:
Mae ein Diploma Lefel 3 mewn Rheoli Gofal Iechyd yn sicrhau bod gan ddysgwyr y sgiliau a’r wybodaeth i reoli gwasanaethau clinigol ac anghlinigol ar draws y GIG.
Bydd y cwrs yn eich cefnogi i ymgymryd â’ch cyfrifoldebau mewn lleoliad clinigol mewn modd proffesiynol a chymwys. Bydd yn eich galluogi i gefnogi rheolaeth esmwyth yr amgylchedd clinigol.
Dysgwyr sy’n rheoli tîm mewn amgylchedd clinigol neu anghlinigol yn y GIG, ac sy’n ymgymryd â chyfrifoldeb rheolaethol dros reoli staff a’r amgylchedd gwaith.
Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes).
Unedau Gorfodol
- Darparu hyfforddiant drwy arddangos neu gyfarwyddo.
- Egwyddorion gweithio ym maes gofal iechyd.
- Goruchwylio staff mewn sefydliadau gofal iechyd.
- Rheoli cofnodion adnoddau dynol mewn sefydliad gofal iechyd.
- Deall darpariaeth yr iaith Gymraeg mewn cyfleusterau gofal iechyd.
- Rheoli perfformiad unigolion mewn lleoliad gofal iechyd.
Unedau Dewisol
- Rheoli cyfleuster swyddfa.
- Rheoli cyllideb.
- Gweithredu newid.
- Rheoli gwrthdaro mewn tîm.
- Cynnal safonau ansawdd yn y sector iechyd.
- Rheoli cyfarfodydd.
- Gwella gwasanaeth yn y sector iechyd.
- Rheoli adnoddau mewn sefydliad gofal iechyd.
Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, mae’n bosib y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.
Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell.
Ar ôl cofrestru, dyrennir aseswr i ddysgwyr hefyd., bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn ei weithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) bob mis, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau.
Mae cyfleoedd cyflogaeth yn cynnwys:
- Arweinwyr tîm
- Rheolwyr
Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod:
- yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
- yn byw yng Nghymru
- ddim mewn addysg llawn amser
- ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
- Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma
Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:
- fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
- gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster
- ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
- gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
- cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru