16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Math o gwrs

Cwrs byr

Lefel

Lefel 5

Lleoliad

Ar-lein/F2F

Dyddiad cychwyn

Dyddiadau lluosog ar gael

Cost

PLA
Darganfyddwch mwy

Ydych chi’n awyddus i wella sgiliau neu gynyddu eich gwybodaeth i ddatblygu eich gyrfa? Bydd cwrs Tystysgrif IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol yn darparu’r wybodaeth fanwl am yr amgylchedd a chynaliadwyedd rydych chi’n awyddus i ddatblygu. Yn ogystal â gwella eich gwybodaeth, mae’r cwrs hwn yn mynd cam ymhellach ac yn rhoi’r gallu i chi gymhwyso offer rheoli ac asesu amgylcheddol sydd eu hangen i fod yn ymarferydd effeithiol. Mae’r cwrs hwn yn arwain yn uniongyrchol at Aelodaeth Ymarferydd IEMA.

IEMA yw’r corff proffesiynol ar gyfer pawb sy’n gweithio ym maes yr amgylchedd a chynaliadwyedd. Mae IEMA yn gyfrifol am sicrhau bod gan bobl sy’n gweithio ar y rheng flaen yn y meysydd hyn y wybodaeth, cymwyseddau, sgiliau a hyder perthnasol i wneud swydd broffesiynol. Mae IEMA hefyd yn helpu busnesau, llywodraethau a rheoleiddwyr i wneud y peth iawn o ran mentrau, heriau a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd a chynaliadwyedd.

 

Mae’r cwrs hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn sefydliadau ar lefel weithredol ac yn dilyn llwybr gyrfa yn yr amgylchedd a chynaliadwyedd. Byddwch yn gweithio o fewn rheolaeth amgylcheddol neu gynaliadwyedd ac angen gwybodaeth fanwl am egwyddorion amgylcheddol a chynaliadwyedd, offer rheoli a sgiliau eraill i gyflawni newid cadarnhaol yn effeithiol.

Yn alinio â’r cymwyseddau gofynnol ar gyfer Aelodaeth Ymarferydd IEMA, mae’r cwrs hwn yn berffaith i unrhyw un sy’n dymuno uwchraddio eu haelodaeth IEMA i Lefel Ymarferydd ac Ymarferydd Amgylcheddol Cofrestredig (REnvP).

Y Dystysgrif mewn Rheolaeth Amgylcheddol yw’r llwybr hyfforddi at aelodaeth Ymarferydd IEMA. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, fe’ch gwahoddir i gadarnhau eich cais i dderbyn Aelodaeth Ymarferydd. Yn ystod y cwrs, byddwch yn Ymgeisydd Aelod Ymarferydd  a phan fyddwch yn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus fe’ch gwahoddir i gyflwyno cais i fod yn  Aelod Ymarferydd  (mae cost ychwanegol ar gyfer REnvP).

Bydd angen lefel sylfaenol o wybodaeth amgylcheddol a/neu gynaliadwyedd a enillwyd drwy brofiad gwaith neu gwrs perthnasol, fel y Dystysgrif Sylfaen mewn Rheolaeth Amgylcheddol.

 

Dros y tri modiwl, bydd dysgwyr ar y cwrs hwn yn gallu:

  • Esbonio goblygiadau tueddiadau byd-eang i’r amgylchedd, i gymdeithas, i’r economi ac i sefydliadau a rôl ymarferydd Amgylchedd/Cynaliadwyedd wrth oresgyn yr heriau hyn
  • Esbonio modelau busnes/llywodraethu cynaliadwy, eu hegwyddorion sylfaenol a’u perthynas â sefydliadau, cynhyrchion a gwasanaethau
  • Esbonio egwyddorion amgylcheddol a’u perthynas â sefydliadau, cynhyrchion a gwasanaethau
  • Esbonio polisi a deddfwriaeth bwysig a’u goblygiadau i sefydliadau, cynhyrchion a gwasanaethau
  • Esbonio offer, technegau, systemau ac arferion pwysig a pherthnasol, eu pwrpas a sut y gellir eu defnyddio i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau cynaliadwy a gwella perfformiad cynaliadwyedd
  • Egluro rôl arloesi ac arferion blaenllaw eraill wrth ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau cynaliadwy a darparu datrysiadau cynaliadwy
  • Casglu a dadansoddi data yn feirniadol, ac adrodd gwybodaeth sy’n llywio gwneud penderfyniadau
  • Nodi problemau ac asesu cyfleoedd sy’n darparu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol a chynaliadwy
  • Penderfynu, gweithredu a mesur dulliau cyfathrebu effeithiol
  • Adnabod a chymryd rhan mewn cyfathrebu dwyffordd â rhanddeiliaid
  • Cymhwyso neu ddefnyddio offer, technegau, systemau ac arferion sy’n adnabod cyfleoedd a risgiau.
  • Darparu prosiectau a rhaglenni sy’n cyflawni gwella perfformiad
  • Gweithredu newid a thrawsnewid

Mae hwn yn gwrs 15 diwrnod (120 awr), sy’n cael ei gyflwyno ar-lein. Cyflwynir ein cyrsiau gan hyfforddwyr cymwys sydd wedi’u hasesu gan IEMA er mwyn sicrhau ansawdd.

Mae tri aseiniad seiliedig ar wybodaeth ac un asesiad cymhwysedd a ddylai roi enghreifftiau o sut mae’r wybodaeth a ddysgwyd yn ystod y cwrs wedi cael ei gymhwyso’n ymarferol yn y gweithle. Ar ôl cwblhau eich asesiad yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif ddigidol i gydnabod eich cyflawniad a byddwch yn derbyn manylion am sut i ymuno ag IEMA fel Aelod Ymarferydd, gan ennill ôl-ddodiad proffesiynol PIEMA a’r holl fuddion eraill sy’n dod o fod yn aelod o gorff proffesiynol.

 

Tystysgrif mewn Rheolaeth Amgylcheddol
Carfan Modiwl Dyddiad Lleoliad Amse
1 1 10.02.25 Anghysbell 09.30-16.30
11.02.25 Anghysbell 09.30-16.30
12.02.25 Anghysbell 09.30-16.30
13.02.25 Anghysbell 09.30-16.30
14.02.25 Anghysbell 09.30-16.30
2 10.03.25 Anghysbell 09.30-16.30
11.03.25 Anghysbell 09.30-16.30
12.03.25 Anghysbell 09.30-16.30
13.03.25 Anghysbell 09.30-16.30
14.03.25 Anghysbell 09.30-16.30
3 07.04.25 Anghysbell 09.30-16.30
08.04.25 Anghysbell 09.30-16.30
09.04.25 Anghysbell 09.30-16.30
10.04.25 Anghysbell 09.30-16.30
11.04.25 Anghysbell 09.30-16.30
2 1 24.02.25 Anghysbell 09.30-16.30
25.02.25 Anghysbell 09.30-16.30
26.02.25 Anghysbell 09.30-16.30
27.02.25 Anghysbell 09.30-16.30
28.02.25 Anghysbell 09.30-16.30
2 31.03.25 Anghysbell 09.30-16.30
01.04.25 Anghysbell 09.30-16.30
02.04.25 Anghysbell 09.30-16.30
03.04.25 Anghysbell 09.30-16.30
04.04.25 Anghysbell 09.30-16.30
3 06.05.25 Anghysbell 09.30-16.30
07.05.25 Anghysbell 09.30-16.30
08.05.25 Anghysbell 09.30-16.30
09.05.25 Anghysbell 09.30-16.30
12.05.25 Anghysbell 09.30-16.30
3 1 19.05.25 Anghysbell 09.30-16.30
20.05.25 Anghysbell 09.30-16.30
21.05.25 Anghysbell 09.30-16.30
22.05.25 Anghysbell 09.30-16.30
23.05.25 Anghysbell 09.30-16.30
2 23.06.25 Anghysbell 09.30-16.30
24.06.25 Anghysbell 09.30-16.30
25.06.25 Anghysbell 09.30-16.30
26.06.25 Anghysbell 09.30-16.30
27.06.25 Anghysbell 09.30-16.30
3 28.07.25 Anghysbell 09.30-16.30
29.07.25 Anghysbell 09.30-16.30
30.07.25 Anghysbell 09.30-16.30
31.07.25 Anghysbell 09.30-16.30
01.08.25 Anghysbell 09.30-16.30
4 1 07.07.25 Anghysbell 09.30-16.30
08.07.25 Anghysbell 09.30-16.30
09.07.25 Anghysbell 09.30-16.30
10.07.25 Anghysbell 09.30-16.30
11.07.25 Anghysbell 09.30-16.30
2 11.08.25 Anghysbell 09.30-16.30
12.08.25 Anghysbell 09.30-16.30
13.08.25 Anghysbell 09.30-16.30
14.08.25 Anghysbell 09.30-16.30
15.08.25 Anghysbell 09.30-16.30
3 15.09.25 Anghysbell 09.30-16.30
16.09.25 Anghysbell 09.30-16.30
17.09.25 Anghysbell 09.30-16.30
18.09.25 Anghysbell 09.30-16.30
19.09.25 Anghysbell 09.30-16.30
20.09.25 Anghysbell 09.30-16.30

Sut ydych chi’n archebu lle ar gwrs?

Math o gwrs

Cwrs byr

Lefel

Lefel 5

Lleoliad

Ar-lein/F2F

Dyddiad cychwyn

Dyddiadau lluosog ar gael

Cost

PLA
Darganfyddwch mwy