16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Cyrsiau Ar-lein ac yn y Dosbarth

Rydym yn cynnig cyrsiau dysgu cyfunol mewn partneriaeth â Mindful Education, gan ddarparu opsiwn astudio hyblyg sy’n cyfuno dysgu ar-lein â gwersi rheolaidd yn y dosbarth.

Mae ein hystod o gyrsiau proffesiynol rhan-amser Ar-lein ac yn y Dosbarth yn cynnig y gorau o’r ddau fyd, gan olygu bod angen treulio llai o amser yn y dosbarth nag ar gyrsiau traddodiadol sy’n cael eu cynnal yn y dosbarth yn unig, tra’n parhau i ddarparu’r holl fanteision o fod yn rhan o grŵp sy’n cyfarfod yn rheolaidd â thiwtor. Mae hyn yn golygu y gallwch ddewis sut, pryd a ble rydych am astudio.

Cliciwch yma i gael gwybod mwy am fanteision dysgu cyfunol

Ar-lein ac yn y Dosbarth – y gorau o’r ddau fyd

Ar-lein, byddwch yn astudio gwersi fideo sydd wedi ennill gwobrau, sydd ar gael ar alw ac y gellir eu gwylio ar eich ffôn, tabled neu gyfrifiadur – gan olygu y gallwch ddewis sut, pryd a ble rydych am astudio. Mae pob gwers yn para tua 45 munud ac yn cynnwys animeiddiadau a graffeg symudol i ddod â chysyniadau’n fyw. Mae cwestiynau ymarfer, deunyddiau gwersi y gellir eu lawrlwytho ac astudiaethau achos rhyngweithiol yn helpu i wella’r profiad dysgu ymhellach, a dylai dysgwyr ddisgwyl treulio rhwng 3 a 6 awr yn astudio’n annibynnol ar-lein bob wythnos, yn dibynnu ar lefel eu hastudiaeth.

Yn y dosbarth, byddwch yn elwa o ddosbarthiadau rheolaidd gyda thiwtor – heb orfod ymrwymo i fynychu sawl noson bob wythnos. Bydd eich tiwtor yn adolygu’r hyn rydych wedi’i ddysgu yn ystod eich gwersi ar-lein, a bydd ar gael i roi arweiniad ar eich cynnydd a’ch asesiadau. Bydd trafodaeth reolaidd gyda chyd-ddisgyblion yn helpu i atgyfnerthu pwyntiau allweddol, gan hefyd ddarparu’r cymorth a’r cymhelliant ychwanegol sy’n dod o fod yn rhan o grŵp.

Cyllid ar gael

Gallwn gynnig amrywiaeth o gyllid i’ch helpu i dalu cost eich astudiaethau. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy!

Ein Cyrsiau Ar-lein ac yn y Dosbarth
Cymwysterau Prentisiaeth Cyfrifeg AAT Lefel 2–4
Cymwysterau Cyfrifeg AAT Lefel 2–4 — Datblygiad Proffesiynol

"Mae dysgu cyfunol yn golygu fy mod yn gallu cael cydbwysedd da rhwng gwaith, bywyd a theulu. Pe na bawn i’n astudio yn y ffordd hon, ni fyddwn yn gallu cwblhau fy nghymwysterau."
Faye McPhillips, myfyriwr Ar-lein ac yn y Dosbarth
"Mae dysgu cyfunol yn golygu fy mod yn gallu cael cydbwysedd da rhwng gwaith, bywyd a theulu. Pe na bawn i’n astudio yn y ffordd hon, ni fyddwn yn gallu cwblhau fy nghymwysterau."
Faye McPhillips, myfyriwr Ar-lein ac yn y Dosbarth