Am y Cyfle Hwn
Mae Playworks Childcare Ltd yn darparu gofal y tu allan i’r ysgol i blant oedran ysgol gynradd. Maent yn ddarparwr gofal plant aml-safle sy’n gweithio ar draws saith ardal awdurdod lleol.
Mae pob lleoliad wedi’i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru neu wrthi’n cael ei gofrestru.
Caerdydd
14-40 awr
Lwfans hyfforddi JGW+ o hyd at £55 yr wythnos, ynghyd â chostau teithio.
Dyletswyddau
- Gweithio’n agos gyda’r Uwch Reolwr Cyfrifon Cwsmeriaid a’r tîm Cyfrifon Cwsmeriaid i sicrhau bod cyfrifon ac archebion yn gyfredol.
- Cynorthwyo i ateb a throsglwyddo galwadau ffôn i’r adran gywir.
- Ffeilio a llungopïo, ac ymateb i e-byst.
- Ateb ymholiadau rhieni a gofalwyr gyda chymorth gan y tîm rheoli.
- Cymryd taliadau gan rieni a gofalwyr, anfon manylion plant a chofrestrau i leoliadau drwy’r post neu e-bost, a dyrannu taliadau i gyfrifon cwsmeriaid.
Cysylltir â chi dros y ffôn ac e-bost drwy gydol y broses recriwtio, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi manylion cyswllt cyfredol i ni ac yn gwirio eich negeseuon yn rheolaidd.