16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            

Mae’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg (FSP), a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cefnogi busnesau yng Nghymru i ddatblygu gweithlu mwy medrus a gwydn. Drwy’r fenter hon, gall cyflogwyr gael cyllid ar gyfer hyd at 50% o gost hyfforddiant achrededig, gyda grant uchaf o £50,000 fesul cais. P’un a yw eich nod yw mynd i’r afael â phrinder sgiliau, gwella cadw staff, neu ddenu talent newydd, mae’r FSP yn cynnig cymorth gwerthfawr i’ch helpu i fuddsoddi yn nhwf a dyfodol eich tîm.

Cymhwysedd

Mae cyllid ar gael i gyflogwyr sy’n gweithredu mewn unrhyw ddiwydiant ledled Cymru. Rhaid i fusnesau fod wedi’u lleoli yng Nghymru, bod yn ariannol solfent ac ymrwymo i ryddhau staff i gwblhau’r hyfforddiant erbyn diwedd Mawrth 2026.

Sylwch fod cyllid yn ddewisol ac mai Llywodraeth Cymru sy’n gwneud y penderfyniad terfynol ar gymhwysedd.

Sectorau blaenoriaeth

  • Sgiliau Sero Net
  • Sgiliau’r Gadwyn Gyflenwi Coedwigaeth a Phren
  • Sgiliau Digidol
  • Sgiliau Allforio
  • Hyfforddiant Peirianneg a Gweithgynhyrchu
  • Hyfforddiant Sgiliau’r Sector Creadigol
  • Sgiliau Twristiaeth a Lletygarwch

Archwiliwch ein cyrsiau masnachol

Dewch o hyd i amrywiaeth o gyrsiau masnachol proffesiynol i gefnogi pob agwedd ar eich busnes. O hyfforddiant manwl, wyneb yn wyneb i gyrsiau ar-lein hyblyg, ar eich cyflymder eich hun.

 

Chwilio am gwrs

Camau nesaf

Os oes gennych diddordeb mewn gwneud cais am y Rhaglen Sgiliau Hyblyg? Cwblhewch y ffurflen Mynegi Diddordeb.
Ffurflen mynegi diddordeb