Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyllid Addysg Bellach Ran-amser i ddysgwyr cyflogedig sy’n dymuno ennill sgiliau newydd yn eu maes presennol, ac i’r rhai sydd allan o waith ar hyn o bryd ac sy’n dymuno ennill cymwysterau a allai eu helpu i ddod o hyd i yrfa newydd. Drwy’r cyllid hwn, gallwn ddarparu cyrsiau penodol.
I gael mynediad at gyllid ABRh, rhaid i chi fod:
- Dros 16 oed
- Yn byw yng Nghymru
- Ddim mewn addysg uwch amser llawn neu wedi’i hariannu