16-19? Diddordeb yn Twf Swyddi Cymru+?



                                Cysylltwch â ni
                            
/

Mae’r prentis, Aminah Ali, yn elwa ar fanteision uwchsgilio ar ôl cwblhau cymhwyster mewn Rheoli Ynni a Charbon yn ddiweddar gyda’r darparwr hyfforddiant, ACT.

Mae Aminah, sy’n gweithio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful fel prentis Carbon ac Ynni, wedi bod yn defnyddio ei dysgu’n effeithiol yn ei gwaith o ddydd i ddydd.

Mae rôl Aminah yn cynnwys rheoli data mesuryddion ynni ar draws mwy na 30 o safleoedd unigol; rhywbeth sy’n uniongyrchol berthnasol i addysgu’r cwrs, sy’n edrych ar reoli defnydd ynni.

“Fe wnaeth y cymhwyster helpu i ehangu fy ngwybodaeth ymhellach ynghylch mesuryddion, y gallaf ei chymhwyso nawr i’m dyletswyddau o ddydd i ddydd,” esboniodd Aminah.

Yn ogystal â hyn, mae ei chyfranogiad mewn prosiectau lleihau ynni, megis mentrau paneli solar a goleuadau LED, wedi elwa’n fawr o elfen rheoli prosiect y cymhwyster.

“Roedd y modiwl yn arbennig o ddefnyddiol gan fy ngalluogi i ddysgu sut i strwythuro fy mhrosiectau a’r camau angenrheidiol sydd eu hangen i sicrhau bod prosiectau’n cael eu cwblhau’n gywir,” ychwanegodd. “Rwy’n mwynhau rhedeg prosiectau yn fy rôl a hoffwn barhau i wneud hynny drwy gydol fy ngyrfa. Roedd dysgu sut i strwythuro a chyflawni prosiectau’n llwyddiannus yn ddefnyddiol iawn.”

Profodd y modiwl Excel i fod yn agwedd werthfawr arall ar y brentisiaeth.

“Ers cwblhau hwn, rwyf wedi dysgu gwahanol driciau ac awgrymiadau yr wyf bellach yn eu rhoi ar waith yn fy nhaenlenni, sy’n fy helpu i gyflawni fy nhasgau o ddydd i ddydd yn fwy effeithiol.”

Ond yr agwedd fwyaf nodedig ar ei phrofiad prentisiaeth oedd yr uned newid ymddygiad. Lansiodd Aminah a’i thîm yn y cyngor fenter newid ymddygiad gyda’r nod o addysgu staff am ymwybyddiaeth ynni, yn y gwaith ac yn y cartref.

“Aeth yr uned newid ymddygiad law yn llaw â’r hyn yr oeddem yn ceisio ei gyflawni,” meddai. “Rwy’n credu bod hwn yn faes y gall pawb ddysgu amdano a’i roi ar waith nid yn unig yn y gweithle ond hefyd mewn bywyd bob dydd.

“Mae cael diwylliant o weithwyr sy’n ymwybodol o ynni yn fantais fawr nid yn unig i’r sefydliad ond hefyd i iechyd cyffredinol y blaned ac i helpu i gyflawni nodau sero net Llywodraeth Cymru.”

Drwy gydol ei phrentisiaeth, derbyniodd Aminah gefnogaeth gan ACT, yn enwedig gan ei thiwtor, Michelle Marshall, a ddarparodd gyfarfodydd gwirio misol ac a oedd ar gael ar gyfer unrhyw ymholiadau neu bryderon.

Chwaraeodd cyflogwr Aminah rôl hollbwysig yn ei llwyddiant hefyd, gyda chyfarfodydd bob pythefnos wedi’u neilltuo i drafod ei chynnydd a mynd i’r afael ag unrhyw bryderon.

Mae Aminah bellach yn dechrau rôl newydd gyffrous fel Swyddog Cydymffurfiaeth Fecanyddol o fewn y cyngor. Mae hi’n awyddus i gymhwyso’r sgiliau a enillodd drwy ei phrentisiaeth i’w swydd newydd, gan sicrhau bod effeithlonrwydd ynni yn parhau i fod yn ystyriaeth greiddiol yn ei chyfrifoldebau. Mae hefyd yn bwriadu parhau â’i haddysg drwy ddilyn cyrsiau gradd rhan-amser.

Gallwch ddysgu mwy am gymhwyster Rheoli Ynni a Charbon ACT yma.

Rhannwch