Mae Thomas James, 38, wastad wedi bod yn ddysgwr brwd, gan ymgymryd ag amrywiaeth o brentisiaethau drwy gydol ei yrfa. O gymhwyster Lefel 4 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth i Lefel 3 mewn Gweinyddu Busnes, mae ganddo gyfoeth o wybodaeth a phrofiad!
Fel Cydlynydd Prosiectau i Cwmpas, asiantaeth datblygu economaidd, roedd Thomas yn awyddus i ehangu ei wybodaeth am gyfryngau cymdeithasol ymhellach a chofrestrodd ar gyfer cymhwyster Lefel 3 Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes.
“Roeddwn yn awyddus i wneud rhywbeth newydd ac roedd cyfryngau cymdeithasol yn faes o’m rôl lle teimlais y gallwn ddysgu mwy. I mi, roedd y cymhwyster yn cynnig cyfle dysgu am ddim a fyddai’n cael ei achredu ar ddiwedd y broses.”
Mae Prentisiaeth Lefel 3 Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau cyfryngau digidol y gellir eu trosglwyddo ar draws llawer o sectorau. Drwy roi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd i ddysgwyr gefnogi systemau, prosesau a gwasanaethau busnes, mae’r cymhwyster yn galluogi dysgwyr i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd fwy effeithlon a chynhyrchiol.
Wrth siarad am y cymhwyster, dywedodd Thomas, “Rwyf wir wedi mwynhau’r cymhwyster ac roeddwn yn hoffi’r ffaith fy mod yn gallu dewis yr unedau oedd yn gweddu orau i anghenion fy ngwaith. Mae unedau gorfodol i gwmpasu eich gwybodaeth graidd, ond wedyn mae dewis enfawr o unedau y gallwch eu teilwra o’ch cwmpas chi. Mae’n eich galluogi i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch hyder ar yr un pryd.
“I mi, roedd dysgu am Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO) a chynyddu gwelededd brand yn ddysgu hanfodol ar gyfer ymgysylltu. Y canlyniad yw fy mod wedi addasu fy null gweithredu ac mae ymgysylltiad â’m rhwydwaith wedi gwella’n fawr heb orfod hysbysebu o reidrwydd.”
Mae Thomas yn gefnogwr brwd o uwchsgilio yn y gwaith ac mae’n credu bod prentisiaethau’n ddewis craff a synhwyrol i unrhyw un sy’n dymuno hybu eu cynnydd gyrfaol – yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd bresennol.
Rwyf wastad wedi bod â chymhelliant ac uchelgais mawr i wella fy addysg. Roeddwn yn gwybod fy mod yn deilwng o yrfa ystyrlon a mwy o gyfleoedd, ac roeddwn yn cydnabod bod angen i mi ddangos hynny er mwyn gwneud iddo ddigwydd. Manteisiais ar hyfforddiant am ddim yng Nghymru!
“Rwyf wedi gweld newid o fod eisiau Lefelau A penodol a graddau wrth recriwtio, i fusnesau fel Cwmpas sydd eisiau i bobl fod â safon dda o addysg sy’n berthnasol i’r rôl rydych chi’n ymgeisio amdani. Dyma lle mae prentisiaethau’n dod i mewn yn enfawr! Does gen i ddim gradd mewn Rheolaeth, ond mae gen i amrywiaeth o gymwysterau mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Gweinyddu Busnes ac, erbyn hyn, cyfryngau cymdeithasol. Mae’n creu pecyn braf o sgiliau!
Mae Cyfryngau Cymdeithasol yn arbennig o hanfodol yn y farchnad heddiw gan eu bod yn galluogi busnesau i ddenu ac ymgysylltu â chwsmeriaid, tra’n cynyddu cyrhaeddiad y farchnad. Drwy ei gymhwyster Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes, gall Thomas lunio a gweithredu syniadau ymgyrchoedd marchnata i ysgogi busnes a chodi gwelededd ei brosiect gwaith presennol.
“Y peth mwyaf y mae’r cymhwyster wedi’i roi i mi yw’r hyder fy mod yn gwneud rhywbeth yn iawn. Rydych yn fwy tebygol o berfformio’n well yn eich swydd os ydych yn teimlo’n hyderus. Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi offer i chi fel bod gennych yr wybodaeth, yr hyder, y profiad a’r gallu i ddeall sut orau i addasu eich dull gweithredu.”
Gall llywio prentisiaeth ochr yn ochr ag ymrwymiadau gwaith ymddangos yn llethol, ond mae Thomas yn pwysleisio, gyda chymhelliant a chefnogaeth, fod prentisiaeth yn opsiwn ymarferol i unrhyw un yn y gweithle.
Byddwn yn bendant yn argymell prentisiaethau i unrhyw un. Nid ydynt yn rhywbeth rydych chi’n ei wneud pan fyddwch yn ifanc ac yn meddwl nad ydych yn academaidd. Mae’r canfyddiad hwn yn anghywir! Mae prentisiaethau’n ffordd ymarferol o uwchsgilio eich hun, gan ddangos eich bod yn gyfrifol ac yn ymrwymedig i ddysgu, tra’n magu hyder ac yn dod yn ased i’ch gweithle. Hefyd, maen nhw am ddim!
“Mae’r gefnogaeth gan ACT wedi bod yn wych hefyd. Mae’r aseswyr wastad wedi bod ar gael ac wedi darparu llawer iawn o sicrwydd, arweiniad, ac wedi bod yn galonogol ac yn hyblyg iawn. Mae fy ngwerth yn y gweithle wedi cynyddu ers ymgymryd â’m prentisiaethau ac rwyf bellach mewn sefyllfa i rannu fy ngwybodaeth ag eraill yn y busnes.”
Er mai dim ond yn ddiweddar y cwblhaodd ei gymhwyster Cyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes, mae Thomas eisoes wedi gosod ei fryd ar gymwysterau pellach a fydd yn ei alluogi i gyrraedd ei nod o ddod yn Gynghorydd Busnes.
“Rwyf wedi gwneud cais i wneud Hyfforddiant Ymarferydd Cyfranddaliadau Cymunedol, a fydd yn dangos fy sgiliau fel Cynghorydd Busnes. I mi, mae’n ymwneud â diogelu fy nyfodol a meithrin cymaint o sgiliau ag y gallaf.”
Os hoffech ddysgu mwy am Gyfryngau Cymdeithasol ar gyfer Busnes a sut y gall ddiogelu eich gyrfa ar gyfer y dyfodol, cliciwch yma.