Mae Mike Glavin yn addysgwr proffesiynol ac ymroddedig sydd â phrofiad helaeth o wella ysgolion o fewn ystod eang o gyd-destunau, gan gynnwys awdurdodau lleol, consortiwm ac amrywiaeth o ysgolion gan gynnwys ysgolion ffydd, ysgolion sy’n cael eu herio gan ffactorau cymdeithasol ac ysgol ryngwladol fawreddog.
Trawsnewidiodd Mike y tair ysgol a arweiniodd fel Pennaeth, gan sicrhau bod y ffocws yn parhau ar y dysgwyr a’r hyn yr oedd ei angen arnynt. Aeth ymlaen i fod yn arweinydd trawsnewidiol fel uwch swyddog mewn awdurdod lleol ac fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol ac yna Rheolwr Gyfarwyddwr y consortiwm addysgol mwyaf yng Nghymru.
Yn ogystal, mae gan Mike brofiad sylweddol o baratoi ymgeiswyr ar gyfer Prifathrawiaeth ac o gefnogi/herio ysgolion fel arweinydd system/ymgynghorydd cynradd.
Mae Mike bellach yn Rheolwr Gyfarwyddwr ei gwmni ei hun, Mike Glavin Catalyst Limited.