Amanda yw sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Do-IT Solutions, cwmni technoleg er budd cymdeithasol sy’n darparu offer, hyfforddiant ac ymgynghoriaeth ym maes niwroamrywiaeth a llesiant.
Mae Amanda yn athro emeritws ym Mhrifysgol De Cymru ac yn athro anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ganddi brofiad clinigol ac ymchwil, a sefydlodd a rheolodd dîm clinigol ac ymchwil trawsddisgyblaethol am 20 mlynedd yn ymwneud â niwroamrywiaeth. Mae’n feddyg teulu cymwysedig ac mae ganddi PhD yn ymwneud ag oedolaeth gynnar a niwroamrywiaeth.
Mae Amanda wedi bod ar fyrddau cynghori’r llywodraeth, er enghraifft y Grŵp Cenedlaethol Namau Cudd, yn ogystal â chynghori elusennau yn y DU ac yn rhyngwladol ym maes niwroamrywiaeth. Mae hyn yn cynnwys bod yn noddwr Cymdeithas Dyspracsia Seland Newydd, ac yn Gadeirydd Movement Matters UK. Hi hefyd yw cadeirydd presennol Sefydliad ADHD ac mae’n gweithio’n agos gyda llawer o elusennau eraill sy’n gweithio yn y maes hwn.
Mae hi wedi ysgrifennu 9 llyfr a mwy na 100 o bapurau ymchwil yn y maes, a chyhoeddwyd ei llyfr diweddaraf yn 2021: ‘Neurodiversity at Work, Drive Innovation, Performance and Productivity with a Neurodiverse Workforce’. Mae ganddi lyfr newydd ar niwroamrywiaeth mewn addysg yn dod allan yn ddiweddarach yn 2022.
Mae codi safonau yn bwysig i Amanda, a Do-IT Solutions oedd y cwmni cyntaf yng Nghymru i ennill statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd.
Mae gan Amanda brofiad personol uniongyrchol o niwroamrywiaeth, gan ei bod yn ystyried ei hun yn niwrowahanol yn ogystal â bod yn rhiant i blant ac wyrion/wyresau niwrowahanol. Mae angerdd Amanda dros greu newid mewn cymdeithas a chynyddu’r cyfleoedd i arddangos talentau plant ac oedolion niwrowahanol, yn enwedig mewn lleoliadau gwaith, mor gryf heddiw ag yr oedd 30 mlynedd yn ôl.