Mae gan Richard 25 mlynedd o brofiad ym maes addysg a hyfforddiant, ac mae wedi dal swyddi uwch yn y sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector, gan gynnwys Pennaeth Cyllido Rhaglenni i Lywodraeth Cymru, Cyfarwyddwr y Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus i Oedolion, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru, Rheolwr Gyfarwyddwr ACT Training a Chadeirydd ALS Training.
Mae Richard wedi bod yn aelod o nifer o bwyllgorau allweddol ym maes addysg a hyfforddiant, ac mae wedi cadeirio Panel Gwlad Cymru y Learning and Skills Improvement Service (LSIS) a Chytundeb Cyffredin Credyd Cymru. Mae wedi bod yn aelod o fwrdd Agored Cymru, YMCA Community College Ltd, Careers Choices Dewis Gyrfa Ltd, ac ar hyn o bryd mae’n aelod o fwrdd ACT Ltd, ALS Ltd a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.
Yn ACT, ac yng nghyd-destun blaenoriaethau strategol Grŵp CAVC, mae Richard yn gyfrifol am bennu cyfeiriad strategol a pherfformiad cyffredinol y sefydliad.