Ynglŷn â’r Cyfle Hwn
Mae WoW Hair and Beauty yn un o’r ychydig salonau yn y DU sy’n gwbl gynhwysol o ran LGBTQ+ ac yn niwtral o ran rhywedd. Nid gwallt a harddwch yn unig sy’n bwysig iddyn nhw, ond iechyd meddwl a grymuso hefyd.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i berson ifanc sydd eisiau dechrau ei yrfa yn y diwydiant gwallt. Byddwch chi’n cael y cyfle i gwblhau cymhwyster Cyflogadwyedd gydag ACT fel rhan o raglen Twf Swyddi Cymru+ gyda photensial i symud ymlaen i Brentisiaeth.
Caerdydd
14-40 awr
Lwfans hyfforddi JGW+ hyd at £55 yr wythnos ynghyd â threuliau teithio.
Dyletswyddau
- Cynorthwyo a chefnogi gyda gwasanaethau salon.
Byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn ac e-bost drwy gydol y broses recriwtio, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi manylion cyswllt cyfredol i ni ac yn gwirio’ch negeseuon yn rheolaidd.